09/03/2010 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Chwefror 2010 i’w hateb ar 09 Mawrth 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diwylliant yfed ymysg pobl ifanc yng Nghymru. OAQ(3)2706(FM)

2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau a fu rhwng y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU ynghylch cael gafael ar gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru. OAQ(3)2713(FM) TYNNWYD YN ÔL

3. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â thlodi tanwydd. OAQ(3)2715(FM)

4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer rhoi hwb i gystadleurwydd economaidd. OAQ(3)2725(FM)

5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd at gyflawni'r targed tai fforddiadwy sydd yn Cymru’n Un. OAQ(3)2720(FM)

6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i'r afael â thanau bwriadol. OAQ(3)2703(FM)

7. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau ei Lywodraeth ar gyfer gweddill y 3ydd Cynulliad. OAQ(3)2707(FM)

8. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adeiladu ar waith yr uwchgynadleddau economaidd. OAQ(3)2705(FM)

9. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa sylwadau a gafodd y Prif Weinidog yn ddiweddar ynghylch dileu tlodi yng Nghymru. OAQ(3)2714(FM)

10. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gostau parcio i bobl anabl. OAQ(3)2701(FM)

11. Jeff Cuthbert (Caerffili): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddynodi Castell Rhiw'r Perrai a'i dir cyfagos yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. OAQ(3)2709(FM) TYNNWYD YN ÔL

12. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer gofal canser yng Nghymru. OAQ(3)2716(FM)

13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau ei Lywodraeth ar gyfer blwyddyn olaf y Llywodraeth glymblaid. OAQ(3)2723(FM)

14. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflawni Ymrwymiadau Cymru'n Un. OAQ(3)2724(FM)

15. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch cefnffyrdd yng Nghymru. OAQ(3)2711(FM)