Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Ebrill 2012
i’w hateb ar 9 Mai 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
1. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro sut y sicrheir gonestrwydd ariannol Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. OAQ(4)0108(FIN)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth oedd blaenoriaethau’r Gweinidog wrth ddyrannu’r gyllideb ar gyfer y portffolio Tai, Adfywio a Threftadaeth. OAQ(4)0110(FIN)
3. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw cynlluniau buddsoddi cyfalaf y Llywodraeth am y 6 mis nesaf. OAQ(4)0113(FIN) W
4. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaeth ar gyfer Llanelli dros y tymor Cynulliad hwn. OAQ(4)0121(FIN) W
5. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi rhagor o gydlyniant cymunedol. OAQ(4)0112(FIN) TYNNWYD YN ÔL
6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynglyn â Chomisiwn Silk. OAQ(4)0119(FIN) W
7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd sydd wedi’i wneud o ran sicrhau pwerau benthyca i Lywodraeth Cymru. OAQ(4)0109(FIN)
8. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb gyffredinol a ddyrennir i’r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(4)0115(FIN)
9. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer de-ddwyrain Cymru dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0118(FIN)
10. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau rhagor o gaffael lleol gan y sector cyhoeddus. OAQ(4)0123(FIN) W
11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau buddsoddiad gan y sector preifat ar gyfer prosiectau cyfalaf yng Nghymru. OAQ(4)0117(FIN)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo polisi cyfle cyfartal y Llywodraeth yn Sir Drefaldwyn. OAQ(4)0120(FIN) TYNNWYD YN ÔL
13. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cael y gwerth mwyaf posibl am “y bunt Gymreig”. OAQ(4)0107(FIN)
14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i bolisïau ynni Llywodraeth Cymru wrth bennu’r gyllideb gyffredinol ar gyfer y portffolio Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy. OAQ(4)0116(FIN)
15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni gwerth am arian. OAQ(4)0114(FIN) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
1. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer Tor-faen dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0132(BET)
2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gontractau Olympaidd a enillwyd gan gwmnïau o Gymru. OAQ(4)0120(BET)
3. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau i ailddatblygu cyn-safle Melin Bapur Trelái yng Ngorllewin Caerdydd. OAQ(4)0123(BET)
4. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa waith y mae’r Gweinidog yn ei wneud i hybu cydweithio rhwng y sectorau busnes ac addysg yng Nghymru. OAQ(4)0118(BET)
5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer Llanelli dros y tymor Cynulliad hwn. OAQ(4)0133(BET) W
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad Ardaloedd Twf ym Mhowys. OAQ(4)0127(BET) TYNNWYD YN ÔL
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Technium Abertawe. OAQ(4)0117(BET)
8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad twristiaeth ffydd yng Nghymru. OAQ(4)0128(BET) TYNNWYD YN ÔL
9. Elin Jones (Ceredigion): Sut y bydd y Gweinidog yn cefnogi’r economi dros y 6 mis nesaf. OAQ(4)0121(BET) W
10. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau ar gyfer grantiau i fusnesau yn etholaeth Arfon. OAQ(4)0131(BET) W
11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i gefnogi busnesau bach yng Nghymru. OAQ(4)0116(BET)
12. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Llywodraeth yn mynd i’w cymryd i leddfu effaith y dirwasgiad ar Gymru. OAQ(4)0130(BET) W
13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa strategaeth sydd gan y Gweinidog i ddenu twristiaid domestig a rhyngwladol i Gymru yr haf hwn. OAQ(4)0119(BET)
14. Sandy Mewies (Delyn): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog rhagor o dwristiaeth chwaraeon yng Nghymru. OAQ(4)0129(BET)
15. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd i ymateb i effaith amrywiadau mewn gwerth arian ar gwantwm y cyllid Ewropeaidd sydd ar gael i Gymru. OAQ(4)0122(BET)