09/06/2010 - Materion Gwledig a Amgylchedd

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Mai 2010 i’w hateb ar 09 Mehefin 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

1. Irene James (Islwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i helpu pobl i gael gafael ar gynnyrch lleol. OAQ(3)1069(RAF)

2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella lles cymdeithasol ac economaidd cymunedau gwledig. OAQ(3)1072(RAF)

3. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Strategaeth Ffermio, Bwyd a Chefn Gwlad - Creu Dyfodol Cadarn. OAQ(3)1087(RAF)

4. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi cymunedau gwledig yn Nelyn. OAQ(3)1092(RAF)

5. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dyfu miscanthus (hesg eliffant) ar gyfer ei ddefnyddio fel biodanwydd yng Nghymru. OAQ(3)1054(RAF)

6. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i gymunedau gwledig yng Nghymru. OAQ(3)1098(RAF)

7. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)1083(RAF)

8. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo arallgyfeirio yn y byd amaeth. OAQ(3)1058(RAF)

9. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i gefnogi ffermwyr. OAQ(3)1075(RAF)

10. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gydag Undebau'r Ffermwyr. OAQ(3)1061(RAF)

11. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y mesurau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y fferm deuluol draddodiadol. OAQ(3)1091(RAF)

12. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid yn Islwyn. OAQ(3)1068(RAF)

13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei pholisïau ar gyfer annog y genhedlaeth nesaf o ffermwyr. OAQ(3)1095(RAF)

14. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth i gymunedau gwledig yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)1079(RAF)

15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i gynhyrchwyr bwyd lleol. OAQ(3)1081(RAF)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

1. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at gyflawni targedau ailgylchu yng Nghymru. OAQ(3)1302(ESH)

2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i gefn gwlad Cymru. OAQ(3)1319(ESH)

3. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella effeithlonrwydd ynni y stoc tai hŷn. OAQ(3)1284(ESH)

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Cartrefi Cynaliadwy. OAQ(3)1313(ESH)

5. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y mesurau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â bygythiad llifogydd. OAQ(3)1303(ESH)

6. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynglŷn â datganoli’r pwerau ar brosiectau ynni mawr. OAQ(3)1328(ESH)

7. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. OAQ(3)1315(ESH)

8. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn mynd i’r afael ag ansawdd aer gwael yn unol â'u dyletswyddau statudol. OAQ(3)1279(ESH)

9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y deuddeng mis nesaf. OAQ(3)1299(ESH)

10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am chwilio am nwy methan mewn meysydd glo yng Nghymru. OAQ(3)1289(ESH)

11. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Ardal Adfywio Strategol Arfordir Gogledd Cymru. OAQ(3)1320(ESH)

12. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ynni adnewyddadwy yng Nghymru. OAQ(3)1324(ESH)

13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â sbwriel. OAQ(3)1318(ESH)

14. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r defnydd o ynni adnewyddadwy. OAQ(3)1282(ESH) TYNNWYD YN ÔL

15. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu llwybrau seiclo yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)1285(ESH)