Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Ionawr 2010 i’w hateb ar 10 Chwefror 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yng Nghymru. OAQ(3)0941(RAF) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig
2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y diwydiant hel cocos yng Ngogledd Cymru yn gynaliadwy. OAQ(3)0966(RAF)
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru. OAQ(3)0943(RAF)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau portffolio ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)0949(RAF)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion ynghylch dyfodol cymunedau gwledig. OAQ(3)0950(RAF)
6. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu cynnyrch o Gymru. OAQ(3)0942(RAF) W
7. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddynodi Ardaloedd Llai Ffafriol yng Nghymru. OAQ(3)0974(RAF)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei pholisïau i helpu i gefnogi'r rheini sy'n byw mewn ardaloedd gwledig. OAQ(3)0970(RAF)
9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei hamcanion ar gyfer cymunedau gwledig yn 2010. OAQ(3)0973(RAF)
10. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynhyrchu a marchnata cennin. OAQ(3)0937(RAF)
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud ynghylch dyfodol y Polisi Amaethyddol Cyffredin ar ôl 2013. OAQ(3)0944(RAF)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd ei pholisïau o fudd i Ddwyrain De Cymru. OAQ(3)0940(RAF)
13. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer cymunedau ffermio. OAQ(3)0967(RAF)
14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hybu bwyd a gynhyrchir yng Nghymru. OAQ(3)0959(RAF)
15. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnal ffermio defaid yng Nghymru. OAQ(3)0938(RAF)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â phrif sialensiau amgylcheddol Cymru. OAQ(3)1141(ESH)
2. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd at gyrraedd targedau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar dlodi tanwydd. OAQ(3)1162(ESH)
3. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i leihau nwyon tŷ gwydr. OAQ(3)1144(ESH)
4. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dai fforddiadwy yng Nghymru. OAQ(3)1132(ESH)
5. David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i gynyddu cyfran y gwastraff sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru. OAQ(3)1158(ESH)
6. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei pholisïau ar gyfer ynni adnewyddadwy. OAQ(3)1150(ESH)
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi pobl ddigartref. OAQ(3)1145(ESH)
8. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir i fentrau gwyrdd yng Nghymru. OAQ(3)1154(ESH)
9. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru. OAQ(3)1136(ESH)
10. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y deuddeg mis nesaf. OAQ(3)1153(ESH)
11. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. OAQ(3)1134(ESH)
12. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Strategaeth Amgylcheddol Cymru. OAQ(3)1148(ESH)
13. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i leihau allyriadau carbon yng Nghymru. OAQ(3)1129(ESH)
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd yng nghyswllt Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir. OAQ(3)1155(ESH)
15. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi microgynhyrchu yng Nghymru. OAQ(3)1161(ESH)