Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Mai 2009 i’w hateb ar 10 Mehefin 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(3)0743(FPS)
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn well yng Nghymru. OAQ(3)0726(FPS)
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y toriadau pellach tebygol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru o ganlyniad i’r dirwasgiad. OAQ(3)0744(FPS)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynigion i wella gwasanaethau cyhoeddus allweddol yng Nghymru. OAQ(3)0730(FPS)
5. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau i gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sgil datganiad Cyllideb diweddar Canghellor y DU. OAQ(3)0753(FPS) TYNNWYD YN ÔL
6. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)0733(FPS)
7. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safon cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0736(FPS) TYNNWYD YN ÔL
8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad y gyllideb ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf. OAQ(3)0754(FPS)
9. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad y gyllideb gyffredinol ar gyfer y portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)0714(FPS)
10. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r trafodaethau y mae wedi’u cael gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol ynghylch y pwysau ariannol ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. OAQ(3)0715(FPS)
11. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn well ar lefel leol. OAQ(3)0735(FPS)
12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch effaith Gemau Olympaidd Llundain ar ddyraniad y gyllideb gyffredinol ar gyfer Cymru. OAQ(3)0756(FPS)
13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru. OAQ(3)0746(FPS)
14. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r sylwadau a wnaethpwyd ynghylch dyraniad y gyllideb ar gyfer y portffolio Treftadaeth. OAQ(3)0720(FPS)
15. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gronfa 'Buddsoddi i Arbed’. OAQ(3)0725(FPS)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysg ôl-16 yng Nghymru. OAQ(3)0929(CEL)
2. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i helpu i gefnogi unigolion yng Nghymru y mae arnynt eisiau bod yn ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain cymwysedig llawn. OAQ(3)0965(CEL) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
3. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i greu Campws Dysgu ôl-16 ym Mlaenau Gwent. OAQ(3)0914(CEL)
4. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg Gymraeg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(3)0964(CEL)
5. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyledion myfyrwyr. OAQ(3)0936(CEL)
6. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei pholisïau ar weithio gyda busnesau i ddatblygu sgiliau. OAQ(3)0933(CEL)
7. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Grant Gwella Adeiladau Ysgolion. OAQ(3)0916(CEL)
8. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi’u cael ynghylch cynlluniau i ad-drefnu ysgolion yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)0948(CEL)
9. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y bwlch cyflawni rhwng pobl ifanc yng Nghymru ac yn Lloegr. OAQ(3)0958(CEL)
10. Lesley Griffiths (Wrecsam): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi plant ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu yng Nghymru. OAQ(3)0924(CEL)
11. Janice Gregory (Ogwr): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad cyfalaf mewn ysgolion yn Etholaeth Ogwr. OAQ(3)0938(CEL)
12. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad i addysg ôl-16 yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)0961(CEL)
13. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei pholisïau i gefnogi dysgu gydol oes yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)0925(CEL)
14. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddiad cyfalaf mewn ysgolion yng Nghymru. OAQ(3)0932(CEL)
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau rhwng y Cyngor Prydeinig a cholegau a phrifysgolion yng Nghymru. OAQ(3)0946(CEL)