11/06/2013 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Mehefin 2013 i’w hateb ar 11 Mehefin 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau GIG yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)1113(FM)

2. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ba drafodaethau y mae wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch y newidiadau arfaethedig i gymorth cyfreithiol? OAQ(4)1116(FM)W

3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y teithiau hedfan o faes awyr Caerdydd? OAQ(4)1112(FM)

4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau canser yng Nghymru? OAQ(4)1106(FM)

5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fesurau atal llifogydd yn yr Wyddgrug? OAQ(4)1111(FM)

6. Julie James (Gorllewin Abertawe): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gennym wasanaethau cyhoeddus cadarn yn Abertawe? OAQ(4)1115(FM)

7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1120(FM)

8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Fil Cynllunio arfaethedig Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1107(FM)

9. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer integreiddio’r broses o ddarparu gwasanaethau iechyd a chymdeithasol? OAQ(4)1110(FM)

10. Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r effaith ar economi Cymru petai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(4)1104(FM)W

11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynnydd Llywodraeth Cymru i gyflwyno band eang mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru? OAQ(4)1108(FM)

12. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd? OAQ(4)1114(FM)W

13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella triniaeth i bobl sydd â chanser ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1119(FM)

14. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi gwybodaeth am y ffigurau diweddaraf ar gyfer amseroedd aros i gleifion canser? OAQ(4)1117(FM)

15. David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Deoniaeth Cymru ynghylch lleoedd hyfforddi ar ôl ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng Nghymru? OAQ(4)1118(FM)