Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Ebrill 2010 i’w hateb ar 12 Mai 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau cyllidebol. OAQ(3)1070(BB)
2. Sandy Mewies (Delyn): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. OAQ(3)1068(BB) TYNNWYD YN ÔL
3. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid cyffredinol ar gyfer y portffolio Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. OAQ(3)1067(BB)
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi eu cael am gyllido Cymru’n decach. OAQ(3)1047(BB)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ffactorau pwysig bydd y Gweinidog yn eu hystyried wrth lunio cynlluniau cyllidebol i’r dyfodol. OAQ(3)1063(BB)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill y flwyddyn galendr. OAQ(3)1059(BB)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhoi i anghenion plant yng Nghymru wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1069(BB)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhoi i flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth ddyrannu’r gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)1050(BB)
9. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch sut y gwnaeth roi sylw i’r angen i gau’r bwlch ffyniant yng Nghymru wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1075(BB)
10. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllid cyffredinol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1073(BB)
11. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gyllid ar gyfer y gyllideb Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol. OAQ(3)1060(BB)
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi ystyried y goblygiadau i Gymru yn dilyn adroddiad diweddar y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar doriadau yng ngwariant y Llywodraeth. OAQ(3)1054(BB)
13. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid yn y dyfodol i’r portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)1053(BB)
14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(3)1062(BB)
15. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch trefniadau cyllido i Gymru. OAQ(3)1056(BB)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)1149(HER)
2. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i dwristiaeth yng Nghymru. OAQ(3)1132(HER)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i ddenu twristiaid i'r Gorllewin. OAQ(3)1140(HER)
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol yng Nghymru. OAQ(3)1138(HER)
5. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod adeiladau hanesyddol yng Nghymru. OAQ(3)1147(HER)
6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Eisteddfod Genedlaethol 2010. OAQ(3)1136(HER)
7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hyrwyddo digwyddiadau chwaraeon yng Nghymru. OAQ(3)1134(HER)
8. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newid i’r digidol yng Nghymru. OAQ(3)1150(HER)
9. David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i gymharu ansawdd gwybodaeth ddiwylliannol a hanesyddol gerllaw henebion ac atyniadau i dwristiaid yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)1143(HER)
10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo treftadaeth yn sir Fynwy. OAQ(3)1148(HER)
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer hyrwyddo treftadaeth naturiol Cymru. OAQ(3)1133(HER)
12. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r newyddion diweddaraf am gynlluniau nofio am ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1155(HER)
13. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer darparu mynediad am ddim i amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol. OAQ(3)1158(HER)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A yw'r Gweinidog wedi penderfynu ar ei flaenoriaethau gwario ar gyfer y flwyddyn nesaf. OAQ(3)1161(HER)
15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer y rhaglenni 5x60. OAQ(3)1139(HER)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ymweliadau grwpiau ysgol â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. OAQ(3)0043(AC)