Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Medi 2010 i’w hateb ar 13 Hydref 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
1. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Fenter Cyllid Preifat. OAQ(3)1191(BB)
2. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith toriadau Llywodraeth y DU ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1168(BB)
3. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)1180(BB)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad i amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad. OAQ(3)1194(BB)
5. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi. OAQ(3)1196(BB)
6. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau y gellir olrhain yn rhwydd newidiadau i gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1201(BB) Trosglwyddwyd i'w Ateb yn Ysgrifenedig
7. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebu ar sail rhyw yng Nghymru. OAQ(3)1184(BB)
8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllideb cyffredinol i’r portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)1163(BB)
9. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb Cymru. OAQ(3)1172(BB)
10. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa ystyriaethau y mae’r Gweinidog wedi’u rhoi i adolygu'r dyraniad cyllideb i’r portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(3)1177(BB)
11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am agwedd Llywodraeth Cynulliad Cymru at y gyllideb cyfalaf. OAQ(3)1162(BB) TYNNWYD YN ÔL
12. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y Strategaeth Leoli ar Ogledd Cymru. OAQ(3)1169(BB)
13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf yn rhanbarth Canol De Cymru. OAQ(3)1198(BB)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau gwerth am arian ar draws cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1193(BB)
15. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn y mae’r Gweinidog yn rhagweld a fydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. OAQ(3)1166(BB) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer hyrwyddo prosiectau celf yng Nghymru. OAQ(3)1266(HER)
2. Irene James (Islwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hybu pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. OAQ(3)1278(HER)
3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i dreftadaeth yn sir Fynwy. OAQ(3)1301(HER)
4. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safleoedd crefyddol hanesyddol yng Nghymru. OAQ(3)1283(HER)
5. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido Cymru yn ei Blodau. OAQ(3)1288(HER)
6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ba drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid ar gyfer S4C. OAQ(3)1285(HER)
7. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at y celfyddydau mewn cymunedau difreintiedig. OAQ(3)1259(HER)
8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth yng Nghymru wledig. OAQ(3)1268(HER)
9. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynglyn â darlledu yng Nghymru. OAQ(3)1270(HER) W
10. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Fesur y Gymraeg. OAQ(3)1254(HER) W
11. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mlaenau Gwent. OAQ(3)1274(HER)
12. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer gwarchod treftadaeth Cymru yng Nghymru. OAQ(3)1260(HER)
13. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi’u hanelu at gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. OAQ(3)1257(HER) TYNNWYD YN ÔL
14. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)1268(HER) W
15. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi ein hamgylchedd hanesyddol. OAQ(3)1280(HER) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad
1. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y gwasanaethau arlwyo sydd ar gael i Aelodau Cynulliad. OAQ(3)0044(AC) TYNNWYD YN ÔL
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y trefniadau ar gyfer diddymu’r Cynulliad yn 2011. OAQ(3)0045(AC)