Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Hydref 2007
i’w hateb ar 13 Tachwedd 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth dialysis arennau yng Nghymru. OAQ(3)0449(FM)
2. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am faint o arian a ddisgwylir yn sgil defnyddio tir y Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer Ffermydd Gwynt. OAQ(3)0444(FM)
3. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Feddygon Teulu’n adnabod canserau. OAQ(3)0436(FM)
4. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi eu cynnal gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynglŷn â rhwydwaith Swyddfa’r Post yng Nghymru. OAQ(3)0446(FM)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0452(FM)
6. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â iawndal i’r rhai a ddioddefodd yn sgil trafferthion Farepak . OAQ(3)0448(FM) Tynnwyd yn ôl
7. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oedi wrth drosglwyddo gofal. OAQ(3)0457(FM)
8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru. OAQ(3)0454(FM)
9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i gynorthwyo i ddatblygu Rygbi yng Nghymru. OAQ(3)0438(FM)
10. Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyngor a’r cymorth sydd ar gael i annog defnyddwyr gwledig i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. OAQ(3)0443(FM)
11. David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar gael i hybu arloesi a menter yn Economi Cymru. OAQ(3)0441(FM)
12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol rhwydwaith swyddfa’r post yng Nghymru. OAQ(3)0432(FM)
13. Gareth Jones (Conwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol swyddfeydd post gwledig yng Nghymru. OAQ(3)0450(FM)
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau mae’r Prif Weinidog wedi eu cynnal gyda Gweinidogion y DU ynglŷn ag effaith polisi cynllunio Llywodraeth y DU ar Gymru. OAQ(3)0442(FM) Tynnwyd yn ôl
15. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer llythrennedd emosiynol. OAQ(3)0433(FM) Tynnwyd yn ôl