Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Ionawr 2015 i'w hateb ar 14 Ionawr 2015
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gefnogaeth sydd ar gael i helpu i ddiogelu lles athrawon yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0509(ESK)
2. Gwyn Price (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo dysgu fel gyrfa? OAQ(4)0516(ESK)
3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydlynu'r ddarpariaeth o addysg feddygol? OAQ(4)0519(ESK)
4. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i wella presenoldeb mewn ysgolion cynradd? OAQ(4)0521(ESK)
5. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyflwyno darpariaeth deg o addysg ôl-16 yn Nhorfaen? OAQ(4)0517(ESK)
6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau addysg cerdd yng Nghymru? OAQ(4)0510(ESK)
7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau i wella canlyniadau addysgol yn 2015 ar gyfer disgyblion yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0518(ESK)
8. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd dysgu technoleg gwybodaeth mewn ysgolion? OAQ(4)0515(ESK)
9. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu Llwybrau Dysgu 14-19 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? OAQ(4)0512(ESK)W TYNNWYD YN ÔL
10. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid i ysgolion yng Nghymru? OAQ(4)0523(ESK)
11. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddalgylchoedd ysgolion? OAQ(4)0511(ESK)W
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae'r system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion yn gweithredu yn ymarferol? OAQ(4)0524(ESK)
13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod 2015? OAQ(4)0514(ESK)
14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella addysg yn Sir Benfro? OAQ(4)0506(ESK)
15. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran yr ymgynghoriadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn yr adran addysg? OAQ(4)0508(ESK)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i Gasnewydd ar gyfer twf busnesau yng nghanol y ddinas yn ystod y blynyddoedd diwethaf? OAQ(4)0513(EST)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynigion sydd dan sylw gan y Gweinidog ar gyfer cyfnod rheoli chwech o fuddsoddiad Network Rail ym masnachfraint Cymru a'r Gororau? OAQ(4)0500(EST)W
3. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd tuag at y gwaith o gyflawni ffordd osgoi A483/A489 ger y Drenewydd? OAQ(4)0501(EST)
4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y terfyn yfed a gyrru cyfredol yng Nghymru? OAQ(4)0509(EST)
5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr? OAQ(4)0496(EST)
6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ryddfreinio llwybrau rheilffordd Cymru a'r Gororau? OAQ(4)0510(EST)
7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ynni rhatach ar ddiwydiant yng Nghymru? OAQ(4)0507(EST)
8. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaglen cynnal a chadw a gwella ar gyfer cefnffyrdd? OAQ(4)0495(EST)
9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth fydd effaith debygol y fframwaith rhagoriaeth ymchwil a gyhoeddwyd fis diwethaf ar bolisi gwyddoniaeth yng Nghymru? OAQ(4)0505(EST)
10. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y diwygiad diweddar o'r cynllun parcio bathodyn glas yng Nghymru? OAQ(4)0502(EST)
11. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd mentrau cymdeithasol i economi Cymru? OAQ(4)0506(EST)
12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol llyfrgelloedd yng Nghymru? OAQ(4)0512(EST)W
13. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol llyfrgelloedd lleol yng Nghymru? OAQ(4)0497(EST)W
14. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r manteision economaidd i Gymru sy'n deillio o ddatblygiad Heathrow Hub? OAQ(4)0511(EST)
15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddiwygio ardrethi busnes yng Nghymru yn 2015? OAQ(4)0498(EST)