Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 31 Hydref 2007
i’w hateb ar 14 Tachwedd 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
1. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni):
Awnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith sy'n cael ei wneud dan y strategaeth Yn Gall gyda Gwastraff. OAQ(03)0095(ESH)
2. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y Mesur Newid yn yr Hinsawdd. OAQ(03)0118(ESH)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau i frwydro yn erbyn llifogydd yng Nghanol De Cymru. OAQ(03)0080(ESH)
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddigartrefedd bwriadol. OAQ(03)0070(ESH)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau ei phortffolio yng Nghanol De Cymru. OAQ(03)0079(ESH)
6. Leanne Wood (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am dargedau ailgylchu yng Nghymru. OAQ(03)0106(ESH)
7. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Awnaiff y Gweinidog amlinellu ei pholisïau i gynyddu ailgylchu yng Nghymru yn ystod oes y Cynulliad hwn. OAQ(03)0063(ESH)
8. Irene James (Islwyn):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i annog gostyngiad pellach yn y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi. OAQ(03)0090(ESH)
9. Brynle Williams (Gogledd Cymru):
Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru. OAQ(03)0096(ESH)
10. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ynni adnewyddadwy yng Nghymru. OAQ(03)0087(ESH) Tynnwyd yn ôl
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer rheoli amgylchedd morol Cymru. OAQ(03)0074(ESH)
12. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnal safleoedd tirlenwi yn Ne Cymru. OAQ(03)0094(ESH) Tynnwyd yn ôl
13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am lygredd dŵr yn ardal Caldicot ym Mynwy. OAQ(03)0107(ESH)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y tai fforddiadwy sydd ar gael yng Nghymru. OAQ(03)0086(ESH) Tynnwyd yn ôl
15. Lynne Neagle (Tor-faen):
Awnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth y Cynulliad i gefnogi ailgylchu yng Nghymru. OAQ(03)0113(ESH)
Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i gefnogi defnyddio a chadw adeiladau cymunedol hanesyddol yng Nghymoedd y De. OAQ(3)0080(HER)
2. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni):
Awnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi yn y Celfyddydau a Diwylliant ym Merthyr Tudful a Rhymni. OAQ(3)0073(HER)
3. David Melding (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith CADW yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0084(HER)
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Beth y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i ehangu cyfranogaeth mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. OAQ(3)0087(HER)
5. Gareth Jones (Aberconwy):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am y berthynas gweithio rhwng Croeso Cymru a Visit Britain o ran hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid. OAQ(3)0107(HER)
6. Mohammed Asghar (Dwyrain De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn Nhor-faen. OAQ(3)0068(HER)
7. Helen Mary Jones (Llanelli):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau i hybu cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. OAQ(3)0098(HER)
8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):
Awnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer amddiffyn amgylchedd hanesyddol Cymru. OAQ(3)0077(HER)
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Beth y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i annog a hyrwyddo cyfryngau cymunedol. OAQ(3)0104(HER)
10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Beth y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i sicrhau bod casgliadau ac archifau'r amgueddfeydd ac orielau Cenedlaethol yn fwy hygyrch i bobl yng Nghymru. OAQ(3)0088(HER)
11. Alun Ffred Jones (Arfon):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer twristiaeth gynaliadwy. OAQ(3)0102(HER)W
12. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Awnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer amddiffyn adeiladau rhestredig yng Nghymru. OAQ(3)0075(HER)
13. Leanne Wood (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu defnydd pobl ifanc o’r Iaith Gymraeg. OAQ(3)0094(HER)W
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer theatr Saesneg ei hiaith yng Nghymru. OAQ(3)0061(HER) Tynnwyd yn ôl
15. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth):
Beth y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i ehangu’r mynediad at weithgareddau diwylliannol a chwaraeon ymhlith pobl o gefndiroedd isel eu hincwm. OAQ(3)0072(HER)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
1. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru):
Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch poblogaeth y carchardai yng Nghymru. OAQ(3)0087(SJL)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):
Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol yng Ngorllewin Sir Gaerfyrddin a De Sir Benfro. OAQ(3)0057(SJL)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau dros y 12 mis nesaf i fynd i'r afael â thlodi dyled yn y Gorllewin. OAQ(3)0110(SJL)
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am ailbrisio’r Dreth Gyngor yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0063(SJL)
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth ar gyfer pobl anabl yng Nghymru. OAQ(3)0096(SJL)
6. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Beth y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i hyrwyddo gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc. OAQ(3)0068(SJL)
7. Chris Franks (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol swyddfeydd post yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0082(SJL)
8. David Melding (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu dangosyddion perfformiad cymharol ar gyfer llywodraeth leol yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0070(SJL)
9. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth y Cynulliad yn hyrwyddo ac yn annog cyfleoedd i bobl anabl. OAQ(3)0107(SJL)
10. Janice Gregory (Ogwr):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith yr undebau credyd yng Nghymru. OAQ(3)0106(SJL)
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi plant yng Nghymru. OAQ(3)0086(SJL)
12. Helen Mary Jones (Llanelli):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch iawndal i’r rhai a ddioddefodd yn sgil trafferthion Farepak. OAQ(3)0076(SJL)
13. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth cyllid i lywodraeth leol. OAQ(3)00936(SJL)
14. Mark Isherwood (Gogledd Cymru):
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru. OAQ(3)0072(SJL) Tynnwyd yn ôl
15. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am frwydro yn erbyn homoffobia. OAQ(3)0092(SJL)
Gofyn i Aelod Comisiwn y Cynulliad
1. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Awnaiff Comisiynydd y Cynulliad ddatganiad am ddiogelwch a mynediad y cyhoedd i’r Senedd. OAQ(3)0003(COM)
2. Gareth Jones (Aberconwy):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu man diogel i barcio beiciau y tu allan i Ganolfan Ymwelwyr y Gogledd ym Mae Colwyn. OAQ(3)0002(COM)