Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 01 Chwefror 2011 i’w hateb ar 15 Chwefror 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi CAFCASS yn eu gwaith. OAQ(3)3427(FM)
2. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am botensial economaidd arfordir Cymru. OAQ(3)3420(FM)
3. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi’r rheini nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. OAQ(3)3416(FM) TYNNWYD YN ÔL
4. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau cludo cleifion a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a ddarperir gan y Trydydd Sector. OAQ(3)3430(FM)
5. Helen Mary Jones (Llanelli): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â sefyllfa ceiswyr lloches yng Nghymru. OAQ(3)3429(FM)
6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo gofal iechyd ataliol. OAQ(3)3421(FM)
7. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn y Cymoedd. OAQ(3)3428(FM)
8. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi preswylwyr oedrannus yn y Gorllewin. OAQ(3)3412(FM) TYNNWYD YN ÔL
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i warchod ein cymunedau gwledig. OAQ(3)3415(FM)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y blaenoriaethau seilwaith yng nghytundeb Cymru’n Un. OAQ(3)3425(FM)
11. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y berthynas rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. OAQ(3)3423(FM)
12. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brosiectau trafnidiaeth yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)3413(FM)
13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad Cyllid Myfyrwyr Cymru. OAQ(3)3418(FM)
14. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog nodi sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymateb i’r materion a amlinellwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb ar 10 Ionawr 2011. OAQ(3)3417(FM)
15. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi Cymru. OAQ(3)3414(FM)