Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Mehefin 2010 i’w hateb ar 15 Mehefin 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cefnogi Cymru wledig. OAQ(3)2927(FM)
2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Dwyrain De Cymru. OAQ(3)2939(FM)
3. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant adeiladu. OAQ(3)2926(FM)
4. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer polisi addysg yn y chwe mis nesaf. OAQ(3)2942(FM)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda chyd-Weinidogion ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)2935(FM)
6. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau allweddol. OAQ(3)2937(FM)
7. Sandy Mewies (Delyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan awdurdodau lleol weithdrefnau effeithlon i adennill dyledion. OAQ(3)2948(FM)
8. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)2934(FM)
9. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr oriau y mae Meddygon Teulu ar gael. OAQ(3)2936(FM)
10. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)2945(FM)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithlonrwydd y gwasanaeth iechyd. OAQ(3)2943(FM)
12. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. OAQ(3)2938(FM)
13. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei brif flaenoriaethau. OAQ(3)2947(FM)
14. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ad-drefnu ysgolion yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)2940(FM)
15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu'r gweithlu cartrefi gofal preswyl. OAQ(3)2931(FM)