Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Tachwedd 2011 i’w hateb ar 15 Tachwedd 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau iechyd i Gymru. OAQ(4)0220(FM)
2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau ei Lywodraeth ar gyfer atal colli bioamrywiaeth. OAQ(4)0221(FM)
3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiad economaidd Dwyrain De Cymru. OAQ(4)0223(FM)
4. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau ei Lywodraeth i hybu’r economi. OAQ(4)0217(FM) W
5. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod Gweinidogion a’u swyddogion yn gweithio gyda’i gilydd ar faterion trawsbynciol i Gymru. OAQ(4)0222(FM)
6. Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â thrydaneiddio’r brif reilffordd rhwng De Cymru a Llundain. OAQ(4)0226(FM)
7. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. OAQ(4)0227(FM)
8. Llyr Huws Gruffudd (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd anifeiliaid. OAQ(4)0218(FM) W
9. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi mentrau cymdeithasol yng Nghymru. OAQ(4)0224(FM)
10. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i bobl ifanc sy’n mynd i addysg bellach. OAQ(4)0225(FM)
11. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y polisïau y mae ei weinyddiaeth yn eu dilyn ar hyn o bryd i helpu i wneud Cymru yn gymdeithas sy’n fwy cyfartal. OAQ(4)0231(FM)
12. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Sawl gwaith y mae’r Prif Weinidog wedi cwrdd â Gweinidogion Llywodraeth y DU i drafod polisi ynni adnewyddadwy. OAQ(4)0219(FM) W
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Gogledd Cymru dros dymor nesaf y Cynulliad. OAQ(4)0228(FM) TYNNWYD YN ÔL
14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi clybiau chwaraeon cymunedol di-elw yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0229(FM)
15. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith lefelau dyled personol yng Nghymru ar yr economi. OAQ(4)0230(FM) W