Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Mawrth 2010 i’w hateb ar 16 Mawrth 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd yr ardaloedd BILl newydd yn cyd-fynd ag ardaloedd cynlluniau gofodol. OAQ(3)2732(FM)
2. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio sylweddau anghyfreithlon yng Nghymru. OAQ(3)2730(FM)
3. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith yr ymrwymiadau gwariant personol y mae wedi'u gwneud ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)2750(FM)
4. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Sut y mae'r Prif Weinidog yn cydbwyso ei flaenoriaethau rhwng gwahanol adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)2744(FM)
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddyfodol Stiwdios Ffilm Rhyngwladol y Ddraig yn Llanilid. OAQ(3)2739(FM)
6. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi'u cael yn ddiweddar gydag adrannau Llywodraeth y DU. OAQ(3)2743(FM)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Gwasanaeth Ambiwlans. OAQ(3)2729(FM)
8. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch plismona yng Nghymru. OAQ(3)2746(FM)
9. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ariannu addysg yn sir y Fflint. OAQ(3)2748(FM)
10. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. OAQ(3)2734(FM)
11. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol cymorth busnes yng Nghymru. OAQ(3)2727(FM)
12. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig. OAQ(3)2741(FM) W
13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer datgloi potensial mentergarwch yng Nghymru. OAQ(3)2749(FM)
14. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth addysgol ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau dysgu. OAQ(3)2728(FM)
15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amddifadedd gwledig yng Nghymru. OAQ(3)2742(FM)