Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Mawrth 2011 i'w hateb ar 16 Mawrth 2011
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb
1. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gynhaliwyd gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y pedair wythnos diwethaf. OAQ(3)1340(BB)
2. David Melding (Canol De Cymru): Yn ôl yr amcangyfrifon, faint mae twyll ariannol yn ei gostio i gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1328(BB)
3. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio cyllid preifat gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1324(BB)
4. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Sut mae cyrff allanol yn cyfrannu at broses pennu'r gyllideb. OAQ(3)1346(BB)
5. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1349(BB)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio Economi a Thrafnidiaeth. OAQ(3)1335(BB)
7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gostau hyfforddi staff Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1330(BB) TYNNWYD YN ÔL
8. Sandy Mewies (Delyn): Beth yw asesiad Llywodraeth Cynulliad Cymru o effaith y cynnydd mewn TAW ar ei chyllideb. OAQ(3)1332(BB)
9. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyffredinol y gyllideb i'r portffolio Economi a Thrafnidiaeth. OAQ(3)1345(BB)
10. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar ynglyn â dyraniad y gyllideb i'r portffolio Materion Gwledig. OAQ(3)1333(BB)
11. Gareth Jones (Aberconwy): Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglyn â chyllideb Cymru. OAQ(3)1344(BB)
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw blaenoriaethau cyllidebol y Gweinidog ar gyfer gogledd Cymru. OAQ(3)1336(BB)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro ): Beth a ystyriwyd gan y Gweinidog wrth ddyrannu arian i'r portffolio Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. OAQ(3)1341(BB)
14. Peter Black (Gorllewin De Cymru) A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae'n blaenoriaethu gwariant cyfalaf ar draws adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith. OAQ(3)1348(BB)
15. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hybu buddsoddi cyfalaf yng Nghymru. OAQ(3)1327(BB)
Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau ei flaenoriaethau ar gyfer chwaraeon yn yr wythnosau sy'n weddill yn y Cynulliad hwn. OAQ(3)1448(HER)
2. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddweud faint o bobl bob dydd ar gyfartaledd sy'n defnyddio'r Cynllun Nofio am Ddim Cenedlaethol. OAQ(3)1454(HER)
3. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi llyfrgelloedd Cymru. OAQ(3)1446(HER)
4. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hybu gweithgareddau chwaraeon. OAQ(3)1447(HER)
5. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Aberconwy yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn. OAQ(3)1469(HER)
6. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadwraeth adeiladau hanesyddol. OAQ(3)1462(HER)
7. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gellid defnyddio lleoliadau ffilm yng Nghymru i hybu twristiaeth Cymru. OAQ(3)1466(HER)
8. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglyn ag ariannu S4C. OAQ(3)1457(HER)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau ei adran ar gyfer Cymru cyn y diddymu. OAQ(3)1459(HER) TYNNWYD YN ÔL
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i ddatblygu twristiaeth wledig yng Nghymru. OAQ(3)1460(HER) TYNNWYD YN ÔL
11. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. OAQ(3)1451(HER)
12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer llyfrgelloedd yng Nghymru. OAQ(3)1443(HER)
13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog sôn am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n ymwneud â chwaraeon yng Nghymru. OAQ(3)1449(HER)
14. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar ynglyn â datblygu swyddogaeth Cymru fel prif leoliad ar gyfer digwyddiadau diwylliannol mawr. OAQ(3)1456(HER)
15. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth yn Llanelli. OAQ(3)1468(HER) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad
Ni Chyflwynwyd yr un Cwestiwn