16/06/2009 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 2 Mehefin 2009 i’w hateb ar 16 Mehefin 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Peter Black (De Orllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cyllido addysg bellach. OAQ(3)2061(FM) TYNNWYD YN ÔL

2. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganllawiau Llywodraeth Cynulliad Cymru i awdurdodau lleol. OAQ(3)2065(FM)

3. Lesley Griffiths (Wrecsam): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau Cymru. OAQ(3()2053(FM)

4. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer iechyd anifeiliaid. OAQ(3)2067(FM)

5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu mynd i’r afael â’r ardaloedd niferus yng Nghymru lle nad oes cysylltiad band eang ar gael. OAQ(3)2062(FM)

6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefel diweithdra yng Nghymru. OAQ(3)2070(FM)

7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynigion i wella safon y gofal a ddarperir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. OAQ(3)2056(FM)

8. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i helpu busnesau sy’n wynebu trafferthion. OAQ(3)2055(FM)

9. Helen Mary Jones (Llanelli): Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i sicrhau nad yw ffydd y cyhoedd yng Nghymru yn Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cael ei chwalu yn yr adeg anodd hwn. OAQ(3)2059(FM)

10. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i annog cyngor a chefnogaeth allgyrsiol proffesiynol i blant a phobl ifanc. OAQ(3)2069(FM)

11. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae’r rhagolwg economaidd yn effeithio ar flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)2058(FM)

12. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar fynediad at wybodaeth. OAQ(3)2066(FM)

13. Trish Law (Blaenau Gwent): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud tuag at ei hymrwymiad yn Cymru’n Un i fwrw ymlaen ag ail-leoli isadrannau Llywodraeth y Cynulliad i’r cymoedd, y gogledd a’r gorllewin. OAQ(3)2064(FM)

14. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith yn y canolbarth dros y flwyddyn nesaf. OAQ(3)2068(FM)

15. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu cludiant nwyddau ar reilffyrdd. OAQ(3)2054(FM) TYNNWYD YN ÔL