Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Mehefin 2010 i’w hateb ar 16 Mehefin 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
1. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar ynghylch y gyllideb gyffredinol a ddyrennir i'r portffolio Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. OAQ(3)1080(BB)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gynnydd y mae'r Gweinidog yn ei wneud at ddiwallu'r ymrwymiadau Cymru'n Un yn ei phortffolio. OAQ(3)1092(BB)
3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau am gyllideb atodol ychwanegol ar gyfer 2010/2011. OAQ(3)1102(BB)
4. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiwn Holtham. OAQ(3)1112(BB)
5. David Melding (Canol De Cymru): Pa weithdrefnau a ddefnyddir i leihau aneffeithlonrwydd yng nghyllidebau Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1084(BB)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'u cymryd i ddiwallu'r sialensiau cyllidebol yn y flwyddyn ariannol nesaf. OAQ(3)1082(BB)
7. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyllid cyffredinol a ddyrennir i’r portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)1090(BB)
8. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa ystyriaethau a roddwyd i gyllido'r gyllideb Materion Gwledig yn y dyfodol. OAQ(3)1078(BB)
9. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i addasu cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried ymrwymiadau Cymru'n Un sydd eisoes wedi cael eu darparu. OAQ(3)1118(BB)
10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr ymgynghoriadau diweddar ynghylch y gyllideb. OAQ(3)1116(BB)
11. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ynghylch cyllideb Cymru. OAQ(3)1114(BB)
12. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â chyd-Weinidogion ynghylch effaith blaenoriaethau ei phortffolio ar gyflenwi gwasanaethau yng Nghymru. OAQ(3)1091(BB)
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhoi i flaenoriaethau tai Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth ddyrannu’r gyllideb Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. OAQ(3)1094(BB)
14. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyd-Weinidogion ynghylch cyllideb Cymru. OAQ(3)1115(BB)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i wasanaethau cyhoeddus wrth ddyrannu'r gyllideb gyffredinol. OAQ(3)1093(BB)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)1169(HER)
2. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i dwristiaeth yng Nghymru. OAQ(3)1193(HER)
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)1181(HER)
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Gorllewin Cymru dros y deuddeg mis nesaf. OAQ(3)1173(HER)
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arddangos Llong Ganoloesol Casnewydd i'r cyhoedd. OAQ(3)1191(HER)
6. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â datblygu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2011 yn Abertawe. OAQ(3)1177(HER) W
7. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nodi treftadaeth chwaraeon yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)1174(HER)
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol darlledu a’i effaith ar Gymru. OAQ(3)1197(HER)
9. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo diwylliant Cymru. OAQ(3)1194(HER)
10. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i annog menywod i gymryd rhan mewn chwaraeon. OAQ(3)1190(HER)
11. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth yng nghymoedd De Cymru. OAQ(3)1176(HER)
12. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgysylltiad cymunedau â threftadaeth Cymru. OAQ(3)1183(HER) TYNNWYD YN ÔL
13. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod treftadaeth wledig ledled Cymru. OAQ(3)1185(HER)
14. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hybu twf yr iaith Gymraeg. OAQ(3)1164(HER) W
15. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr arian a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gefnogi hyfforddiant chwaraeon ychwanegol yng Nghymru. OAQ(3)1199(HER)
Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd yr un cwestiwn.