16/06/2015 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 11/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/06/2015

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Mehefin 2015 i'w hateb ar 16 Mehefin 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cleifion yng Nghanol De Cymru yn cael gofal o safon uchel? OAQ(4)2340(FM)

2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr gwasanaethau rhewmatoleg yn ysbytai Sir Benfro? OAQ(4)2338(FM)

3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y cyfleoedd gorau ar gael i gadwyni cyflenwi ynni yng Nghymru? OAQ(4)2331(FM)

4. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau ailgylchu gwastraff y cartref yng Nghymru? OAQ(4)2332(FM)

5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch diwygio Fformiwla Barnett? OAQ(4)2329(FM)

6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o welyau yn ysbytai Ynys Môn? OAQ(4)2345(FM)W

7. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth ar gyfer plant sydd â nam ar y lleferydd ac iaith yng Nghymru? OAQ(4)2330(FM)

8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer 2014-2020? OAQ(4)2339(FM)

9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i wrthbwyso effaith y setliad ariannol diweddar gan Lywodraeth y DU? OAQ(4)2334(FM)

10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r broblem o gyffuriau anghyfreithlon mewn ysgolion yn 2015? OAQ(4)2328(FM)

11. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch dyfodol Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth? OAQ(4)2335(FM)W

12. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad pellach am y sefyllfa ddiweddaraf o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)2337(FM)W

13. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):  A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y mesurau arbennig a osodwyd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddiweddar? OAQ(4)2336(FM)

14. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod ein treftadaeth diwylliannol? OAQ(4)2343(FM)

15. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch y risgiau a'r cyfleoedd i Gymru sy'n deillio o Gytundeb Siarter y BBC? OAQ(4)2344(FM)