16/07/2008 - Cyllid ac Addysg

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Gorffennaf 2008 i’w hateb ar 16 Gorffennaf 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reolaeth ariannol ar draws ei bortffolio. OAQ(3)0439(FPS)

2. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ynghylch darparu cyllid ychwanegol ar gyfer Addysg Uwch. OAQ(3)0403(FPS)

3. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ddefnydd o Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn. OAQ(3)0421(FPS)

4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu adroddiad cynnydd am y Fframwaith Buddsoddi Cyfalaf Strategol. OAQ(3)0427(FPS)

5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth y Bwrdd Buddsoddi Cyfalaf Strategol. OAQ(3)0437(FPS)

6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i addewidion Cymru’n Un i bobl Cymru wrth ddatblygu’r gyllideb. OAQ(3)0429(FPS)

7. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reolaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru o’i hasedau. OAQ(3)0391(FPS)

8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau cyllideb ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(3)0434(FPS)

9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y 6 mis nesaf ar gyfer cydlynu rhaglenni o fesurau i wella perfformiad gwasanaethau cyhoeddus yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)0395(FPS)

10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gymhariaeth rhwng rhagolygon gwariant a gwariant gwirioneddol yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad. OAQ(3)0414(FPS)

11. Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y dyraniad cyffredinol o gyllid ar gyfer y portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)0433(FPS)

12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ynghylch darparu cyllid ychwanegol yn arbennig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. OAQ(3)0402(FPS)

13. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth Byrddau Gwasanaethau Lleol yng Nghymru.  OAQ(3)0406(FPS)

14. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu adran "Y De Ddwyrain - Rhwydwaith y Brifddinas” yng Nghynllun Gofodol Cymru. OAQ(3)0432(FPS)

15. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf. OAQ(3)0408(FPS) W

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

1. Michael German (Dwyrain De Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i fynd i’r afael ag ymddieithriad disgyblion. OAQ(3)0553(CEL)

2. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch pŵer llywodraethwyr ysgol. OAQ(3)0537(CEL)

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad y Pwyllgor ar Ariannu Ysgolion am Drefniadau Ariannu Ysgolion yng Nghymru. OAQ(3)0514(CEL)

4. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y Cyfnod Sylfaen yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0536(CEL)

5. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i annog disgyblion i gymryd rhan mewn Addysg Bellach. OAQ(3)0559(CEL)

6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gofal cefn disgyblion. OAQ(3)0529(CEL) TYNNWYD YN ÔL

7. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyfleusterau gofal plant yng Nghymru. OAQ(3)0564(CEL)

8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd gweithredu’r Cyfnod Sylfaen yng Nghymru.  OAQ(3)0566(CEL)

9. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o werth y cymhwyster Bagloriaeth Ryngwladol wrth hyrwyddo Dinasyddiaeth Fyd-eang. OAQ(3)0530(CEL)

10. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion swm y gwariant cyfalaf gan ei hadran ar ysgolion newydd a phresennol ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf. OAQ(3)0547(CEL)

11. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio Cynorthwywyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion yng Nghymru. OAQ(3)0542(CEL)

12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg ôl-16 yng Nghymru.  OAQ(3)0554(CEL)

13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen. OAQ(3)0528(CEL)

14. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gyda sefydliadau Addysg Uwch Cymru ynglŷn â chynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. OAQ(3)0533(CEL) W

15. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg alwedigaethol yng Nghymru.  OAQ(3)0511(CEL)