16/07/2013 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Gorffennaf 2013 i’w hateb ar 16 Gorffennaf 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r cynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru i adfywio rhanbarth Canol De Cymru? OAQ(4)1197(FM)

2. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â rhoi trefn cofrestru pleidleiswyr unigol ar waith yng Nghymru? OAQ(4)1190(FM)

3. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thlodi? OAQ(4)1195(FM)

4. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ac i esbonio’r ystod o gymwysterau sydd ar gael yng  Nghymru? OAQ(4)1191(FM)W

5. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella mynediad at wasanaethau gofal ataliol i bobl hyn yng Nghwm Cynon? OAQ(4)1193(FM)

6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa ganlyniad y mae'r Prif Weinidog yn ei ddisgwyl yn sgîl ymweliadau tramor Gweinidogion? OAQ(4)1194(FM) TYNNWYD YN ÔL

7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i amddiffyn pobl hyn rhag twyllwyr? OAQ(4)1199(FM)

8. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith a gaiff cau canghennau banciau ar gynhwysiant cymdeithasol yng nghefn gwlad Cymru? OAQ(4)1198(FM)

9. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru i amaethyddiaeth yng Nghymru? OAQ(4)1196(FM)

10. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau o ran gofal cymdeithasol? OAQ(4)1204(FM)

11. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi y bydd arian ar gael i Ambiwlans Awyr Cymru, os bydd angen, i sicrhau parhad y gwasanaeth hanfodol hwn yn y dyfodol? OAQ(4)1192(FM)

12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r llygredd aer a gaiff ei achosi gan allyriadau cerbydau? OAQ(4)1202(FM)

13. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa wiriadau sy’n cael eu cynnal ar wefannau allanol cyn y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu linc iddynt o’i gwefan? OAQ(4)1189(FM)

14. Lynne Neagle (Torfaen): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus yng ngoleuni'r ffaith fod Llywodraeth y DU yn cwtogi ar gyllid i raddau nas gwelwyd erioed o’r blaen? OAQ(4)1203(FM) TYNNWYD YN ÔL

15. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i fasnach deg? OAQ(4)1200(FM)