Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 03 Mehefin 2009 i’w hateb ar 17 Mehefin 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Mike German (Dwyrain De Cymru): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Cymru newydd ynghylch y broses ddeddfwriaethol. OAQ(3)126(CGE) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i farchnad bwyd Cymru. OAQ(3)0729(RAF)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i gefnogi economi wledig Cymru. OAQ(3)0723(RAF)
3. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Glastir. OAQ(30721(RAF)
4. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer sy’n defnyddio rhaglenni Cyswllt Ffermio yng Nghymru. OAQ(3)0703(RAF) TYNNWYD YN ÔL
5. Lesley Griffiths (Wrecsam): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i amddiffyn cymunedau gwledig. OAQ(3)0701(RAF)
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am economi cymunedau gwledig yng Nghymru. OAQ(3)0709(RAF)
7. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau gwerth am arian yn y gyllideb Materion Gwledig. OAQ(3)0722(RAF)
8. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd at brofi'r holl wartheg dros 42 diwrnod oed am TB mewn gwartheg erbyn diwedd 2009. OAQ(3)0706(RAF)
9. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddileu TB mewn gwartheg. OAQ(3)0730(RAF)
10. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i sicrhau lles cŵn crwydr. OAQ(3)0731(RAF)
11. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth ar gyfer darparu cytundebau rheoli ar dir comin. OAQ(3)0733(RAF)
12. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad gan Asiantaeth yr Amgylchedd i’r digwyddiadau diweddar o gocos marw neu ar fin marw yn Aber Afon Dyfrdwy. OAQ(3)0732(RAF)
13. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y gall eu cymryd i helpu diwydiant cregyn gleision aber afon Conwy i gynnal ei enw arbennig o dda am ansawdd ei gynnyrch. OAQ(3)0743(RAF)
14. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y diwydiant llaeth yng Nghymru. OAQ(3)0720(RAF)
15. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer sy’n defnyddio rhaglenni Cyswllt Ffermio yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0704(RAF) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
1. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa effaith y mae’r hinsawdd economaidd bresennol wedi’i chael ar flaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer gweddill y flwyddyn. OAQ(3)0892(ESH)
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Cymorth Prynu. OAQ(3)0876(ESH)
3. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am garthu ym Môr Hafren. OAQ(3)0888(ESH) TYNNWYD YN ÔL
4. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)0869(ESH)
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr aelwydydd ar restri aros tai cymdeithasol. OAQ(3)0875(ESH)
6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i amddiffyn deiliaid tai rhag llifogydd. OAQ(3)0897(ESH)
7. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y targed i leihau carbon 3% yn Cymru’n Un. OAQ(3)0885(ESH)
8. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. OAQ(3)0880(ESH)
9. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am arweiniad cynllunio ar gyfer datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy. OAQ(3)0906(ESH) TYNNWYD YN ÔL
10. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cyflawni ei hymrwymiadau Cymru’n Un ym mhortffolio’r Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. OAQ(3)0896(ESH)
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadwraeth natur yng Nghymru. OAQ(3)0899(ESH)
12. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ailgylchu gwastraff bwyd yng Nghymru. OAQ(3)0894(ESH)
13. Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa fewnbwn y bydd gan y Gweinidog yng Nghynhadledd Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen yn nes ymlaen eleni. OAQ(3)0904(ESH)
14. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer diogelwch dŵr. OAQ(3)0900(ESH)
15. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnig i gyflwyno Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2009. OAQ(3)0877(ESH)