Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 03 Tachwedd 2010 i’w hateb ar 17 Tachwedd 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
1. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y toriadau a orfodwyd ar gyllideb cyfalaf Cymru yn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant diweddar Llywodraeth y DU. OAQ(3)1214(BB)
2. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ar Gyllideb Cymru. OAQ(3)1212(BB)
3. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Ganol De Cymru. OAQ(3)1223(BB)
4. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhoi i faterion cydraddoldeb wrth lunio cyllideb nesaf Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1210(BB) TYNNWYD YN ÔL
5. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU. OAQ(3)1239(BB)
6. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am doriadau Llywodraeth y DU i gyllideb cyfalaf Cymru. OAQ(3)1207(BB)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o Hyblygrwydd Diwedd Blwyddyn y mae’r Gweinidog yn rhagweld a fydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. OAQ(3)1246(BB) TYNNWYD YN ÔL
8. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniad cyllid ar gyfer y portffolio Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. OAQ(3)1222(BB)
9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau gwerth am arian ar draws adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1218(BB)
10. Gareth Jones (Aberconwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynglyn â chyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1245(BB)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae’n bwriadu gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2011. OAQ(3)1204(BB)
12. Irene James (Islwyn): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am effaith Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant diweddar Llywodraeth y DU ar Gymru. OAQ(3)1213(BB)
13. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw ystyriaeth y mae wedi’i rhoi i hyrwyddo marchnad bondiau yng Nghymru. OAQ(3)1231(BB) TYNNWYD YN ÔL
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i’r dyraniad cyllideb cyffredinol ar gyfer y portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)1230(BB)
15. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): Wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru, pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i faterion cydraddoldeb. OAQ(3)1226(BB)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd twristiaeth i Gymru. OAQ(3)1327(HER)
2. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynllun gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella lefelau gweithgarwch corfforol yng Nghymru. OAQ(3)1337(HER)
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi twristiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. OAQ(3)1344(HER)
4. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun nofio am ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1311(HER)
5. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gweddill tymor hwn y Cynulliad. OAQ(3)1353(HER)
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau y mae wedi’u cael yn gysylltiedig â hyrwyddo prosiectau Celf yng Nghymru. OAQ(3)1346(HER)
7. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi ein hamgylchedd hanesyddol. OAQ(3)1312(HER)
8. Brian Gibbons (Aberafan): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch cynnwys rhaglenni dwyieithog ar S4C. OAQ(3)1351(HER)
9. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod adeiladau Fictoriaidd ac Edwardaidd yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)1342(HER)
10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Gogledd Cymru dros y chwe mis nesaf. OAQ(3)1348(HER)
11. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hyrwyddo’r celfyddydau perfformio yng Nghymru. OAQ(3)1336(HER) TYNNWYD YN ÔL
12. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am newid i’r digidol yng Nghymru. OAQ(3)1319(HER)
13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion Cymru’n Un y mae’n gyfrifol amdanynt. OAQ(3)1309(HER)
14. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod treftadaeth y Canolbarth. OAQ(3)1318(HER)
15. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau a gymerwyd i gefnogi’r diwydiant twristiaeth yn y de orllewin. OAQ(3)1356(HER) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad
1. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am lwyddiant y system TG newydd ar gyfer Aelodau. OAQ(3)0046(AC)
2. Gareth Jones (Aberconwy): Beth mae’r Comisiwn yn ei wneud yn y Gogledd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am rôl y Cynulliad. OAQ(3)0047(AC)