18/01/2011 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 04 Ionawr 2011 i’w hateb ar 18 Ionawr 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael ynghylch darparu gwasanaethau Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi yng Nghymru. OAQ(3)3342(FM) TYNNWYD YN ÔL

2. Trish Law (Blaenau Gwent): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud o effaith yr amodau gaeafol difrifol ar ffyrdd o safbwynt awdurdodau lleol. OAQ(3)3331(FM)

3. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am astudio ôl-radd yng Nghymru. OAQ(3)3322(FM)

4. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch rhoi iawndal llawn i gyn-weithwyr Allied Steel and Wire. OAQ(3)3340(FM)

5. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y misoedd nesaf. OAQ(3)3337(FM)

6. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ganlyniadau arholiadau yng Nghymru. OAQ(3)3332(FM)

7. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(3)3324(FM) TYNNWYD YN ÔL

8. Nick Ramsay (Sir Fynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf. OAQ(3)3327(FM)

9. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei brif flaenoriaethau ar gyfer Dwyrain De Cymru. OAQ(3)3329(FM)

10. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am swyddogaeth yr ysgol o ran cefnogi gofalwyr ifanc. OAQ(3)3338(FM)

11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer hyrwyddo’r diwydiannau gweithgynhyrchu yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)3341(FM)

12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o gynnydd Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran ei hymrwymiadau Cymru’n Un. OAQ(3)3339(FM)

13. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth iechyd yng Nghymru wledig. OAQ(3)3333(FM)

14. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wirfoddoli yng Nghymru. OAQ(3)3336(FM)

15. Veronica German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dwristiaeth yn y De Ddwyrain. OAQ(3)3335(FM) TYNNWYD YN ÔL