Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 04 Tachwedd 2009 i’w hateb ar 18 Tachwedd 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ymgynghoriadau diweddar, sy’n ymwneud a materion cyfreithiol, y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi ymateb iddynt ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0134(CGE) W
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
1. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y diwydiant llaeth yng Nghymru. OAQ(3)0878(RAF)
2. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella cymunedau gwledig yng Nghymru. OAQ(3)0866(RAF)
3. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau amaeth-amgylcheddol Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0898(RAF)
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi eu cael ynghylch gwella’r amodau ar gyfer gweithwyr fferm. OAQ(3)0897(RAF)
5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau sydd ar waith gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i hyrwyddo cynnyrch bwyd lleol yng Nghymru. OAQ(3)0902(RAF)
6. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch bwyd. OAQ(3)0883(ESH)
7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithgareddau’r Comisiwn Coedwigaeth yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)0858(RAF)
8. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch hyrwyddo ymgyrch yr RSPB ac R&A "Adar a Chyrsiau Golff: Canllaw i Reoli Cynefin”. OAQ(3)0879(RAF) Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
9. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol ffermio organig yng Nghymru. OAQ(3)0884(RAF)
10. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod pysgodfeydd yng Nghymru. OAQ(3)0891(RAF)
11. Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau er mwyn helpu i gryfhau cymunedau gwledig. OAQ(3)0901(RAF)
12. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cefnogi’r diwydiant amaeth. OAQ(3)0890(RAF)
13. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer helpu ffermwyr yng Nghymru. OAQ(3)0874(RAF)
14. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid yn Islwyn. OAQ(3)0873(RAF)
15. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brif bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cefnogi’r diwydiant amaeth yn y Canolbarth a’r Gorllewin. OAQ(3)0895(RAF)
Gofyn i’ Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill y tymor Cynulliad hwn. OAQ(3)1062(ESH) TYNNWYD YN ÔL
2. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Uwchgynhadledd Newid yn yr Hinsawdd Copenhagen 2009. OAQ(3)1057(ESH)
3. Irene James (Islwyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i leihau tlodi tanwydd yng Nghymru. OAQ(3)1034(ESH)
4. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau cynllunio sy’n ymwneud â datblygiadau ar orlifdiroedd. OAQ(3)1060(ESH)
5. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth swyddi gwyrdd fel y mae’n berthnasol i Ddatblygu Cynaliadwy yng Nghymru. OAQ(3)1046(ESH)
6. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â bygythiad llifogydd yn sir y Fflint. OAQ(3)1079(ESH)
7. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y cwmnïau yng Nghymru sy’n gysylltiedig â darparu’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES). OAQ(3)1032(ESH)
8. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu tai preifat fforddiadwy yng Nghymru. OAQ(3)1072(ESH)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cynnal gyda chyd-Weinidogion ynghylch gwarchod amgylchedd naturiol Cymru. OAQ(3)1027(ESH)
10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y targed ar gyfer 6,500 o dai fforddiadwy newydd erbyn 2011. OAQ(3)1065(ESH)
11. Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol. OAQ(3)1040(ESH)
12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y cartrefi gwag yng Nghymru. OAQ(3)1036(ESH)
13. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hybu mesurau i fynd i’r afael â’r Newid yn yr Hinsawdd. OAQ(3)1048(ESH)
14. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i hybu microgynhyrchu ynni sy’n cael ei yrru gan ddŵr. OAQ(3)1039(ESH)
15. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer annog mwy o unigolion i gefnogi cynlluniau gwyrdd. OAQ(3)1067(ESH)