19/02/2013 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Chwefror 2013 i’w hateb ar 19 Chwefror 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adroddiad GMB a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn cadarnhau bod 111 o weithwyr Cymru ar restr wahardd y Gymdeithas Ymgynghori ar gyfer y diwydiant adeiladu.OAQ(4)0902(FM)

2. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i gefnogi datblygu economaidd yng Nghymru. OAQ(4)0917(FM)

3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro Blas am Oes.  OAQ(4)0898(FM)

4. Nick Ramsay (Mynwy): Beth mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i hybu addysgu cerddoriaeth ymhlith plant oedran ysgol. OAQ(4)0904(FM)

5. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o bwysigrwydd cysylltiadau band eang i economi Cymru. OAQ(4)0914(FM)W

6. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei ymweliad diweddar â San Francisco. OAQ(4)0907(FM)

7. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0908(FM)

8. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn amlinellu'r manteision i Gymru a fydd yn deillio o’i ymweliad diweddar â San Francisco. OAQ(4)0906(FM)

9. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro sut y caiff argymhellion i adroddiadau pwyllgorau’r Cynulliad sydd wedi’u derbyn eu rhoi ar waith. OAQ(4)0913(FM)W

10. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y system terfyn cyflymder newidiol rhwng cyffordd 24 a chyffordd 28 yr M4 ar lif y traffig. OAQ(4)0909(FM)   

11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion ynghylch y meysydd y mae Uned Gyflawni’r Prif Weinidog yn eu hasesu ar hyn o bryd, ac y bydd yr Uned yn eu hasesu eleni.   OAQ(4)0911(FM)

12. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i gyn-filwyr a phersonél y gwasanaethau brys sydd ag Anhwylder Straen Wedi Trawma yng Nghymru. OAQ(4)0916(FM)

13. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y mae newidiadau i drefniadau dyrannu'r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yn debygol o’i chael ar Gymru. OAQ(4)0910(FM)

14. Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gyfarfod diweddaraf â Chadeiryddion Byrddau Iechyd Lleol. OAQ(4)0901(FM)W

15. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â salwch meddwl yn 2013. OAQ(4)0903(FM)