Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 05 Hydref 2010 i’w hateb ar 19 Hydref 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Brian Gibbons (Aberafan): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi diwydiant trwm yng Nghymru. OAQ(3)3153(FM)
2. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch dyddiadau etholiadau'r Cynulliad yn y dyfodol. OAQ(3)3157(FM)
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflawni rhaglen Cymru'n Un. OAQ(3)3152(FM)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gweddill 3ydd tymor y Cynulliad. OAQ(3)3160(FM)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Prif Weinidog ar gyfer yr economi dros y chwe mis nesaf. OAQ(3)3161(FM)
6. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynaliadwyedd yn Rhaglen Adnewyddu'r Economi. OAQ(3)3151(FM)
7. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer trafnidiaeth. OAQ(3)3154(FM)
8. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y GIG yng Nghymru. OAQ(3)3150(FM)
9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arallgyfeirio mudiadau'r trydydd sector. OAQ(3)3162(FM)
10. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd at gyflawni ymrwymiadau Cymru’n Un. OAQ(3)3165(FM)
11. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin. OAQ(3)3148(FM)
12. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â phensiynau. OAQ(3)3158(FM)
13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. OAQ(3)3164(FM)
14. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi’u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant sydd ar ddod. OAQ(3)3166(FM)
15. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Gronfa Arallgyfeirio Swyddfeydd Post. OAQ(3)3156(FM)