Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 07 Ionawr 2010 i’w hateb ar 20 Ionawr 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
1. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Changhellor y Trysorlys ers ei phenodiad. OAQ(3)0952(BB)
2. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch sut y mae’n bwriadu gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2010. OAQ(3)0947(BB) TYNNWYD YN ÔL
3. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)0927(BB)
4. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0922(BB)
5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffordd y bydd yr adroddiad Rhag-Gyllidebol yn effeithio ar yr ymrwymiadau Cymru’n Un y mae’n gyfrifol amdanynt. OAQ(3)0943(BB)
6. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer 2010. OAQ(3)0950(BB) W
7. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0930(BB)
8. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r effaith y caiff y dirwasgiad ar gynlluniau gwariant Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 2010-11. OAQ(3)0928(BB)
9. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth oedd yr ystyriaethau wrth ddyrannu'r gyllideb Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. OAQ(3)0937(BB)
10. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Comisiwn Holtham annibynnol. OAQ(3)0929(BB)
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer 2010. OAQ(3)0932(BB)
12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(3)0941(BB) TYNNWYD YN ÔL
13. David Melding (Canol De Cymru): Sut y mae’r Gweinidog yn pennu’r arfer gorau presennol a chadernid y mesurau sydd ar waith i sicrhau gwerth am arian a bod arian yn cael ei wario'n effeithlon ar draws cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0924(BB)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer 2010. OAQ(3)0934(BB)TYNNWYD YN ÔL
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y pwysau cyllidebol yn y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(3)0945(BB)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau ei bortffolio ar gyfer y flwyddyn i ddod. OAQ(3)1003(HER)
2. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dreftadaeth ddiwydiannol yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)1002(HER)
3. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer 2010. OAQ(3)1015(HER) W
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau cyfranogaeth mewn gweithgareddau hamdden yng Nghymru. OAQ(3)0999(HER)
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sylwadau y mae wedi’u gwneud ynghylch darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar sianeli masnachol yng Nghymru. OAQ(3)1027(HER)
6. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau diweddar y mae wedi’u cael gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio’r cyfryngau. OAQ(3)1005(HER)
7. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo’r iaith Gymraeg. OAQ(3)0998(HER)
8. Nerys Evans (Mid and West Wales): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â’i flaenoriaethau ar gyfer yr iaith Gymraeg. OAQ(3)1011(HER) W
9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd at gyflawni ymrwymiadau Cymru’n Un y portffolio Treftadaeth. OAQ(3)0991(HER)
10. Nerys Evans (Mid and West Wales): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â darlledu yng Nghymru. OAQ(3)1012(HER) W
11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwarchod treftadaeth Cymru. OAQ(3)1004(HER)
12. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo treftadaeth yng Nghymru. OAQ(3)1029(HER)
13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. OAQ(3)1001(HER)
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ba drafodaethau y mae wedi’u cael gyda'r Trysorlys o ran yr effaith ar lefelau twristiaeth yng Nghymru yn sgil y newidiadau mewn treth i berchnogion sy’n gosod llety gwyliau wedi’i ddodrefnu. OAQ(3)1009(HER)
15. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd twristiaeth i ardal y Gogledd. OAQ(3)1030(HER)
Gofyn i gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad
1. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y trefniadau parcio ar gyfer staff yn swyddfeydd y Cynulliad ym Mae Caerdydd. OAQ(3)0036(AC)
2. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y cynnydd o ran sefydlu Bwrdd Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol. OAQ(3)0035(AC) TYNNWYD YN ÔL
3. Andrew RT Davies (Gorllewin De Cymru): Faint mae Comisiwn y Cynulliad wedi ei wario ers mis Mai 2007 ar ymgynghorwyr allanol. OAQ(3)0037(AC)