Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 6 Mawrth 2012
i’w hateb ar 20 Mawrth 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y potensial am fuddsoddiad yn y dyfodol o ganlyniad i gysylltiadau busnesau Cymru ag UDA. OAQ(4)0428(FM) TYNNWYD YN ÔL
2. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru. OAQ(4)0425(FM)
3. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi trosolwg o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i sicrhau costau byw fforddiadwy. OAQ(4)0426(FM)W
4. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda chwmnïau dwr perthnasol i sicrhau bod gan gartrefi ledled Cymru gysylltiad llawn â rhwydweithiau carthffosydd cyhoeddus. OAQ(4)0427(FM)
5. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru. OAQ(4)0430(FM)
6. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu gwasanaethau ailalluogi yng Nghymru. OAQ(4)0433(FM)
7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael ynghylch Canolfan Gwylwyr y Glannau Abertawe. OAQ(4)0434(FM)
8. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â phroblem gynyddol digartrefedd yn enwedig ymysg pobl iau yng Nghymru. OAQ(4)0432(FM)
9. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achosion diweddar o’r frech goch yng Nghymru. OAQ(4)0431(FM)
10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr angen i hybu buddsoddiad cyfalaf yng Nghymru yng nghyllideb 2012. OAQ(4)0437(FM)
11. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â pholisi ynni. OAQ(4)0438(FM)W
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0436(FM)
13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Mynwy dros y deuddeg mis nesaf. OAQ(4)0429(FM)
14. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddioddefwyr cam-drin domestig. OAQ(4)0435(FM)
15. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU i ddatganoli mwy o bwer dros brosiectau ynni cynaliadwy i Gymru. OAQ(4)0439(FM)