20/05/2014 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Mai 2014 i’w hateb ar 20 Mai 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y berthynas rhwng cynhyrchu bwyd ac economi wledig Cymru? OAQ(4)1676(FM)

2. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adolygiad o’r broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol yng Nghymru? OAQ(4)1666(FM)

3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau fferyllol yng Nghymru? OAQ(4)1680(FM)

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)1665(FM)

5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion adfywio Llywodraeth Cymru yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1664(FM)

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd? OAQ(4)1669(FM)

7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu mesurau i sicrhau y gall Cymru fanteisio i’r eithaf ar uwchgynhadledd NATO? OAQ(4)1678(FM)

8. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argymhellion Rhwydwaith Niwrogyhyrol Cymru ar gyfer buddsoddi mewn gofal niwrogyhyrol arbenigol yng Nghymru? OAQ(4)1668(FM) TYNNWYD YN OL

9. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)1675(FM)

10. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol triniaeth y galon yng Ngheredigion? OAQ(4)1673(FM)W

11. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am roi canllawiau Llywodraeth Cymru ar osod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru ar waith ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)1674(FM)

12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi undebau credyd yng Nghymru? OAQ(4)1679(FM)

13. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am addysg ôl 16 yn Nhorfaen? OAQ(4)1681(FM)

14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo datblygu trefol cynaliadwy? OAQ(4)1667(FM)

15. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision aelodaeth y DU o’r UE i Gymru? OAQ(4)1677(FM)