20/06/2012 - Tai a Cwnsler Cyffredinol

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Mehefin 2012 i’w hateb ar 20 Mehefin 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

1. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector tai rhent preifat. OAQ(4)0141(HRH)

2. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau portffolio ar gyfer Gogledd Cymru dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0140(HRH)

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i adfywio ardaloedd mewn cymunedau gwledig. OAQ(4)0132(HRH)

4. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i adfywio Doc Penfro. OAQ(4)0133(HRH)

5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau tai yn sector rhentu preifat Cymru. OAQ(4)0143(HRH)

6. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y portffolio Treftadaeth dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0144(HRH) TYNNWYD YN ÔL

7. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch cyflwyno TAW ar gyfer addasiadau i Adeiladau Rhestredig. OAQ(4)0136(HRH)

8. David Rees (Aberafan): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal ein treftadaeth yn Aberafan. OAQ(4)0135(HRH)

9. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo lesddeiliaid preifat. OAQ(4)0138(HRH)

10. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i leihau nifer yr eiddo gwag. OAQ(4)0137(HRH)

11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei dargedau cartrefi fforddiadwy. OAQ(4)0131(HRH)

12. Elin Jones (Ceredigion): Sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau buddsoddiad strategol mewn cyfleusterau chwaraeon yn dilyn y Gemau Olympaidd. OAQ(4)0139(HRH) W

13. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i adolygu cynlluniau dyrannu statudol awdurdodau tai lleol Cymru, a pholisïau dyrannu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig Cymru.   OAQ(4)0134(HRH)

14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gamau sy’n cael eu cymryd i wneud yn siwr nad yw pobl yng Nghaerdydd yn colli eu cartrefi oherwydd bod ganddynt ôl-ddyledion gyda'u rhent neu eu morgais. OAQ(4)0142(HRH)

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol

1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am unrhyw gynnydd sydd wedi cael ei wneud gan yr Archifau Gwladol ynghylch ei waith i ddiweddaru ‘Legislation.gov.uk’, yn enwedig yng nghyswllt deddfwriaeth Cymru. OAQ(4)0036(CGE)