20/09/2011 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Medi 2011 i’w hateb ar 20 Medi 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i greu swyddi yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0104(FM)W

2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda’r heddlu a grwpiau cymunedol yng Nghymru yn dilyn y terfysgoedd yn Lloegr. OAQ(4)0107(FM)

3. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi ac amcanion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Chronfa Ddysgu’r Undebau. OAQ(4)0105(FM)

4. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gamau fydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau y bydd y materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb yng Nghymru yn cyfrannu at lunio polisïau yn y dyfodol yn gyffredinol. OAQ(4)0110(FM)

5. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch cau gorsaf Gwylwyr y Glannau Abertawe. OAQ(4)0117(FM)

6. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella bywydau plant sy’n cael gofal yng Nghymru. OAQ(4)0115(FM)

7. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i wella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0112(FM)

8. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad.  OAQ(4)0108(FM)

9. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r effaith y byddai rhoi Parth Lefel Uchaf i Gymru yn ei chael ar economi Cymru.OAQ(4)0119(FM)

10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i Lywodraeth y DU ynghylch y cynnig i gau Canolfan Gwylwyr y Glannau Abertawe. OAQ(4)0111(FM)

11. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddenu mewnfuddsoddiad i Orllewin De Cymru. OAQ(4)0109(FM)

12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymgynghoriad Llywodraeth Cymru gyda’r sector busnes yn y cyfnod cyn cyflwyno’r ardoll ar fagiau siopa untro. OAQ(4)0113(FM)

13. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd ymyriadau gan y Llywodraeth o ran cadw swyddi. OAQ(4)0118(FM)

14. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi twf economaidd yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0106(FM)

15. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am setlo hawliadau gofal sy’n parhau y mae angen ymdrin â hwy. OAQ(4)0103(FM)