Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2013 i'w hateb ar 20 Tachwedd 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am newidiadau arfaethedig ym Mwrdd iechyd Hywel Dda? OAQ(4)0358(HSS)W
2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo rhoi organau mewn ysgolion? OAQ(4)0362(HSS)
3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru? OAQ(4)0353(HSS)
4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod Byrddau Iechyd yn defnyddio adnoddau'n effeithiol i'r eithaf mewn Gofal Sylfaenol? OAQ(4)0355(HSS)
5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau newyddenedigol yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0360(HSS)W
6. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau i bobl sy'n byw â dementia ? OAQ(4)0351(HSS)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y GIG yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0346(HSS)
8. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddosbarthu'r brechlyn ffliw yn Nelyn? OAQ(4)0356(HSS)
9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau a gynhaliwyd i fynd i'r afael ag effaith cyffuriau anterth cyfreithlon? OAQ(4)0357(HSS)
10. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Hywel Dda ar gyfer triniaeth orthopedig y gaeaf hwn? OAQ(4)0361(HSS)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cardiaidd yn Ysbyty Treforys? OAQ(4)0345(HSS)
12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar gwynion y GIG? OAQ(4)0350(HSS)
13. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw fonitro a gwerthuso a wnaed ganddo o benderfyniadau ar Geisiadau Cyllido Cleifion Unigol ers iddo gael ei benodi? OAQ(4)0349(HSS) TYNNWYD YN OL
14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru? OAQ(4)0348(HSS)
15. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd mamau beichiog? OAQ(4)0347(HSS)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda Swyddogion y Gyfraith ynglyn ag Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006? OAQ(4)0053(CG)W
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drefniadau sydd mewn lle i fesur llwyddiant y grant Cymunedau yn Gyntaf ychwanegol a roddwyd yn ddiweddar i wella cyrhaeddiad mewn ysgolion? OAQ(4)0107(CTP)W
2. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r nifer sy'n manteisio ar y budd-daliadau sydd ar gael i bobl yng Nghymru? OAQ(4)0103(CTP)
3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0104(CTP) TYNNWYD YN OL
4. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynorthwyo twf undebau credyd yng nghyd-destun caledi? OAQ(4)0099(CTP) TYNNWYD YN OL
5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella llythrennedd ariannol mewn cymunedau yng Nghymru? OAQ(4)0098(CTP)
6. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y Grant Cymorth i Gyflogwyr wrth gynorthwyo cyn-weithwyr Remploy yn ôl i waith? OAQ(4)0101(CTP)
7. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar i ddod â chymunedau at ei gilydd mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0091(CTP) TYNNWYD YN OL
8. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw sylwadau y mae wedi eu gwneud i Lywodraeth y DU ynglyn ag effaith diwygio lles yng Nghymru? OAQ(4)0089(CTP)
9. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Cymunedau yn Gyntaf o ran cynorthwyo pobl ifanc i gael gwaith? OAQ(4)0090(CTP)
10. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU am oblygiadau polisïau mewnfudo'r DU i Gymru? OAQ(4)0095(CTP)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datganiad Creu Cymunedau Cryf a wnaeth yn gynharach yn y flwyddyn? OAQ(4)0105(CTP)
12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0102(CTP)
13. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â thlodi? OAQ(4)0106(CTP) TYNNWYD YN OL
14. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynaliadwy? OAQ(4)0097(CTP)
15. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn o ran gwneud penderfyniadau strategol yn Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0093(CTP)