Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8fed Ionawr 2009 i’w hateb ar 21ain Ionawr 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn bwriadu ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ynghylch cardiau adnabod, a gyhoeddwyd ar 21 Tachwedd 2008. OAQ(3)0119(CGE)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
1. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am anifeiliaid mewn perygl yng Nghymru. OAQ(3)0536(RAF)
2. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer cefnogi diwydiant cig coch Cymru. OAQ(3)0563(RAF)
3. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waredu anifeiliaid sy’n adweithio i’r prawf TB o ffermydd. OAQ(3)0559(RAF)
4. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei pholisïau i gefnogi a gwella ein cymunedau gwledig yng Nghymru. OAQ(3)0569(RAF)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynigion i wella lles anifeiliaid yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0539(RAF)
6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynghylch adnabod ceffylau. OAQ(3)0560(RAF)
7. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo lles anifeiliaid yng Nghymru. OAQ(3)0567(RAF)
8. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am les anifeiliaid yn Islwyn. OAQ(3)0550(RAF)
9. Janice Gregory (Ogwr): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch gwella diogelwch fflyd pysgota Cymru. OAQ(3)0538(RAF)
10. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch cynigion Ewrop i gyflwyno tagiau electronig ar gyfer defaid. OAQ(3)0566(RAF)
11. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal cŵn crwydr yng Nghymru. OAQ(3)0549(RAF)
12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ynghylch twbercwlosis mewn gwartheg yng Nghymru. OAQ(3)0562(RAF)
13. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i gefnogi’r diwydiant pysgota yng Nghymru. OAQ(3)0543(RAF)
14. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ffermio yn y Parciau Cenedlaethol. OAQ(3)0553(RAF)
15. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd marchnadoedd da byw yn yr economi wledig. OAQ(3)0573(RAF)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dai ar gyfer pobl ag anghenion cymorth. OAQ(3)0682(ESH)
2. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflawni targedau ailgylchu yng Nghasnewydd. OAQ(3)0655(ESH)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau yn y portffolio cynllunio. OAQ(3)0645(ESH)
4. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella ansawdd dŵr yng Nghymru. OAQ(3)0678(ESH)
5. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. OAQ(3)0660(ESH)
6. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi. OAQ(3)0680(ESH)
7. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch ailgylchu yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0692(ESH)
8. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y deuddeg mis nesaf. OAQ(3)0658(ESH)
9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref. OAQ(3)0687(ESH)
10. Sandy Mewies (Delyn): Pa gefnogaeth a chymorth y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei roi i’r bobl hynny sydd mewn anawsterau gydag ad-daliadau morgais oherwydd y sefyllfa economaidd bresennol. OAQ(3)0640(ESH)
11. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Fentrau Masnach Deg yng Nghymru. OAQ(3)0659(ESH)
12. Gareth Jones (Aberconwy): Wrth wneud penderfyniadau o fewn ei chyfrifoldebau portffolio a allai fod yn berthnasol i brosiectau ffermydd gwynt ar y môr, pa dystiolaeth y bydd y Gweinidog yn dibynnu arni ynghylch effeithiolrwydd ffermydd gwynt mawr ar y môr yng nghyswllt lleihau allyriadau CO2. OAQ(3)0693(ESH)
13. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ofyn i Brif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal astudiaeth ddesg o effeithiolrwydd ffermydd gwynt mawr ar y môr fel dull o leihau allyriadau CO2. OAQ(3)0694(ESH)
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr M Tan Glo. OAQ(3)0652(ESH)
15. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr eiddo gwag yng Nghymru. OAQ(3)0671(ESH)