Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 07 Hydref 2009 i’w hateb ar 21 Hydref 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
1. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau triniaethau cyffuriau. OAQ(3)0962(SJL)
2. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael am ddatblygiadau mewn cyfiawnder adferol yng Nghymru. OAQ(3)0927(SJL)
3. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)0948(SJL)
4. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido llywodraeth leol yn y dyfodol. OAQ(3)0930(SJL)
5. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. OAQ(3)0925(SJL)
6. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y Gyllideb Ddrafft ar ei adran. OAQ(3)0967(SJL)
7. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â cham-drin domestig yn erbyn menywod. OAQ(3)0940(SJL)
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am degwch y Dreth Gyngor. OAQ(3)0976(SJL)
9. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y berthynas rhwng Cynghorau Sir a Chynghorau Cymuned. OAQ(3)0928(SJL)
10. David Melding (Canol De Cymru): Beth yw blaenoriaethau cyllideb y Gweinidog yn ei bortffolio. OAQ(3)0950(SJL)
11. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i helpu i hybu mwy o gydweithio rhwng y gwasanaethau 'golau glas’ yng Nghymru. OAQ(3)0975(SJL)
12. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0926(SJL)
13. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gam-drin domestig yng Nghymru. OAQ(3)0932(SJL)
14. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am graffu llywodraeth leol. OAQ(3)0977(SJL)
15. Helen Mary Jones (Llanelli): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch perfformiad Cyngor Sir Caerfyrddin. OAQ(3)0971(SJL)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer hyrwyddo digwyddiadau diwylliannol mewn ardaloedd gwledig. OAQ(3)0912(HER)
2. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Fenter Treftadaeth Ddiwylliannol Cymru. OAQ(3)0890(HER)
3. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael yn ddiweddar gyda chyd-Weinidogion yn Llywodraeth y DU ynghylch darpariaeth newyddion yng Nghymru. OAQ(3)0935(HER)
4. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cynulliad Cymru gyda’r Gronfa Loteri Fawr. OAQ(3)0923(HER)
5. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r Adroddiad Prydain Ddigidol. OAQ(3)0916(HER)
6. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo diwylliant Cymru. OAQ(3)0926(HER)
7. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cefnogi digwyddiadau diwylliannol mewn ardaloedd gwledig. OAQ(3)0913(HER)
8. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo diwylliant Cymru yng Ngorllewin Cymru. OAQ(3)0933(HER)
9. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i amddiffyn yr amgylchedd hanesyddol. OAQ(3)0909(HER)
10. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyflwyno mynediad am ddim i bensiynwyr ac i blant yn safleoedd Cadw yng Nghymru. OAQ(3)0929(HER)
11. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i warchod henebion yn sir y Fflint. OAQ(3)0924(HER)
12. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)0918(HER)
13. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynglŷn ag Adroddiad Prydain Ddigidol. OAQ(3)0936(HER) W
14. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y fenter Nofio Am Ddim Genedlaethol. OAQ(3)0895(HER)
15. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer adeiladau hanesyddol yng Nghymru. OAQ(3)0928(HER)
Gofyn i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad
1. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiynydd roi’r wybodaeth ddiweddaraf am oblygiadau Adroddiad y Panel Adolygu Annibynnol: Yn Gywir i Gymru, i'r Comisiwn. OAQ(3)0031(AC)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaeth TG ar gyfer Aelodau Cynulliad. OAQ(3)0032(AC) TYNNWYD YN ÔL
3. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad y mae’r Comisiwn wedi’i wneud o effeithlonrwydd ynni adeilad Ty Hywel. OAQ(3)0033(AC)