22/01/2008 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Ionawr 2008
i’w hateb ar 22 Ionawr 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol dros y 12 mis nesaf. OAQ(3)0621(FM)

2. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dreialu canolfannau lles. OAQ(3)0623(FM)

3. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Caerffili. OAQ(3)0613(FM)

4. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar mewn prisiau rheilffyrdd. OAQ(3)0607(FM)

5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella triniaeth GIG ar gyfer cleifion yng Nghanol De Cymru.  OAQ(3)0617(FM)

6. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i helpu dioddefwyr trais yn y cartref yng Nghymru. OAQ(3)0634(FM)

7. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Gweinidogion y DU ynglŷn â phrosiect arfaethedig Morglawdd Aber Hafren. OAQ(3)0640(FM)

8. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ar gyfer personél y lluoedd arfog sy’n dychwelyd o ddyletswyddau brwydro. OAQ(3)0624(FM)

9. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gronfa’r loteri yng Nghymru. OAQ(3)0615(FM) W

10. Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i sicrhau bod Cymru yn cael yr amrywiaeth ehangaf bosibl o bwerau fframwaith gan Lywodraeth y DU. OAQ(3)0627(FM)

11. Sandy Mewies (Delyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod addysg pobl o bob oed yn cael ei monitro’n effeithiol. OAQ(3)0619(FM)

12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amcanion polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn 2008. OAQ(3)0614(FM)

13. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau i hyrwyddo arloesedd a thechnoleg yng Nghymru. OAQ(3)0622(FM)

14. Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wneud o fudd Gemau Olympaidd Llundain i Gymru. OAQ(3)0631(FM) Tynnwyd yn ôl

15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ffermydd gwynt ar y tir yn y Gogledd. OAQ(3)06625(FM)