22/05/2012 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Mai 2012
i’w hateb ar 22 Mai 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Llywydd wedi cytuno i alw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i hosbisau.  OAQ(4)0528(FM)

2. David Rees (Aberafan): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economïau cymunedau’r cymoedd. OAQ(4)0523(FM)

3. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau ei Lywodraeth i hybu’r economi. OAQ(4)0531(FM) W

4. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i ddatblygu’r defnydd o ffynonellau newydd neu amgen o gyllid yng Nghymru. OAQ(4)0527(FM)

5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â dwyn metel yng Nghymru. OAQ(4)0520(FM)

6. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Undebau Credyd yng Nghymru. OAQ(4)0519(FM)

7. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael ynghylch y rhaglen Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd. OAQ(4)0526(FM)

8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i roi mwy o gymorth i Gymru wledig. OAQ(4)0534(FM)

9. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyrhaeddiad disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim yng Nghymru. OAQ(4)0524(FM)

10. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynglyn â darparu adnoddau hyfforddi pêl-droed yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0532(FM) W

11. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddileu tlodi plant yng Nghymru. OAQ(4)0525(FM) W

12. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Dwyrain De Cymru dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0522(FM)

13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y gwasanaethau brys yng Nghymru. OAQ(4)0521(FM)

14. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth iechyd drawsffiniol. OAQ(4)0533(FM)

15. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y cyfarfu’r Prif Weinidog â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, a beth oedd canlyniad eu trafodaethau. OAQ(4)0530(FM) W