Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Medi 2009 i’w hateb ar 22 Medi 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Confensiwn Cymru Gyfan. OAQ(3)2183(FM)
2. David Melding (Canol De Cymru): Sawl cwmni yng Nghymru sydd wedi cael cymorth dan y cynllun ProAct a beth oedd y gost. OAQ(3)2195(FM)
3. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru at yr Uwchgynhadledd ar Newid yn yr Hinsawdd yn Copenhagen. OAQ(3)2211(FM)
4. Lesley Griffiths (Wrecsam): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i helpu economi Cymru. OAQ(3)2188(FM)
5. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y 6 mis nesaf. OAQ(3)2203(FM)
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gost system TG Llywodraeth Cynulliad Cymru ers dyfarnu’r contract TG cyfredol. OAQ(3)2204(FM)
7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei nodau a’i amcanion ar gyfer gweddill y flwyddyn. OAQ(3)2202(FM)
8. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyfarfodydd neu drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Changhellor y Trysorlys dros doriad yr haf. OAQ(3)2206(FM)
9. Mike German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i leihau’r tagfeydd ar ffyrdd Cymru. OAQ(3)2209(FM)
10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella’r economi. OAQ(3)2181(FM)
11. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella ansawdd dŵr yn afonydd Cymru. OAQ(3)2207(FM)
12. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gysylltiadau trafnidiaeth yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)2184(FM)
13. Jeff Cuthbert (Caerffili): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella trafnidiaeth rheilffyrdd yng Nghymoedd De Cymru. OAQ(3)2212(FM)
14. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i gryfhau economi Cymru. OAQ(3)2210(FM)
15. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa baratoadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u gwneud cyn y Gynhadledd ar Newid yn yr Hinsawdd yn Copenhagen. OAQ(3)2197(FM)