22/10/2013 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17 Hydref 2013 i’w hateb ar 22 Hydref 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cymryd i sicrhau pwerau benthyg i Gymru? OAQ(4)1289(FM)W

2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lwyddiant Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 i leihau'r defnydd o fagiau plastig? OAQ(4)1287(FM)W

3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y Canllawiau Clinigol gan NICE nad ydynt wedi cael eu rhoi ar waith yng Nghymru? OAQ(4)1288(FM)

4. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio sgiliau menywod yn economi Cymru? OAQ(4)1279(FM)

5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnwys ei drafodaethau diweddar â Phrif Weinidogion Llywodraethau eraill y DU? OAQ(4)1284(FM)W

6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r cynnydd a wnaed i ddatblygu economi Cymru? OAQ(4)1278(FM)

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa strategaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i leihau nifer yr achosion o wenwyn carbon monocsid? OAQ(4)1291(FM)

8. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae cynnydd mewn biliau tanwydd yn effeithio ar gartrefi yng Nghymru? OAQ(4)1280(FM)

9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar 16 Hydref? OAQ(4)1294(FM)

10. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa ddiwydiannau y mae am eu denu i Gymru yn y dyfodol? OAQ(4)1281(FM)

11. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw strategaethau ymgysylltu sy’n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru sy'n hyrwyddo dealltwriaeth o faterion datganoledig? OAQ(4)1290(FM)

12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarth Bae Abertawe? OAQ(4)1292(FM)

13. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl y mae’r newidiadau mewn budd-daliadau yn effeithio arnynt? OAQ(4)1286(FM)

14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Gwpan y Byd Rygbi’r Gynghrair sy’n cychwyn yng Nghymru yr wythnos hon? OAQ(4)1285(FM)W

15. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau heintiadau clostridiwm difficile yng Nghymru? OAQ(4)1293(FM)