23/04/2013 - Prif Weinidog

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Ebrill 2013 i’w hateb ar 23 Ebrill 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1003(FM)

2. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru? OAQ(4)1013(FM)

3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog nodi pa wersi sydd wedi’u dysgu yn sgîl methiant rhaglen Genesis Cymru Wales 2? OAQ(4)1005(FM)

4. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad ynghylch pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu cyfleoedd swyddi ar gyfer pobl ifanc yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)1014(FM)W

5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Llywodraeth y DU ynghylch Swyddfeydd Post yn ystod y chwe mis diwethaf? OAQ(4)1006(FM)

6. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ag awdurdodau lleol ynghylch newidiadau mewn nawdd cymdeithasol? OAQ(4)1008(FM)

7. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei rôl yn pennu blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1004(FM)

8. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â’r lleihad yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy’n cael eu derbyn i brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt? OAQ(4)1009(FM)

9. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod? OAQ(4)1007(FM)

10. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yn Nhor-faen? OAQ(4)1010(FM)

11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddenu mewnfuddsoddiad i Ogledd Cymru? OAQ(4)1011(FM)

12. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru? OAQ(4)1012(FM)