Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Mai 2012 i’w hateb ar 23 Mai 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei chynlluniau ar gyfer dyfodol GIG Cymru. OAQ(4)0124(HSS)
2. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd yng Nghwm Cynon. OAQ0122(HSS)
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y gwasanaethau iechyd yng Ngorllewin De Cymru. OAQ(4)0121(HSS)
4. Elin Jones (Ceredigion): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Byrddau Iechyd Lleol am eu cynlluniau ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(4)0127(HSS) W
5. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella iechyd a lles pobl Cymru ymhellach. OAQ(4)0130(HSS)
6. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal i’r newydd-anedig. OAQ(4)0123(HSS)
7. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r ffigurau ar gyfer y gyllideb a ddyrannwyd ledled Cymru ar gyfer mentrau a phrosiectau hybu iechyd. OAQ(4)0125(HSS)
8. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau ysbytai yn y GIG yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0129(HSS) W
9. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. OAQ(4)0126(HSS)
10. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael gydag awdurdodau lleol ynglyn â meini prawf cymhwyso’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol OAQ(4)0135(HSS) W
11. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau lefelau gordewdra plant. OAQ(4)0132(HSS)
12. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0128(HSS) W
13. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. OAQ(4)0134(HSS)
14. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau sydd ar waith i sicrhau bod Byrddau Iechyd Lleol yn mantoli’r cyfrifon yn y flwyddyn ariannol hon. OAQ(4)0131(HSS)
15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â Nychdod Cyhyrol yng Nghymru. OAQ(4)0133(HSS)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cynnydd o ran datblygu gwyddoniadur ar-lein o Gyfraith Cymru. OAQ(4)0034(CGE)
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei drafodaethau yn ymwneud ag awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru. OAQ(4)0035(CGE) W
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am gynllun prentisiaeth y Cynulliad. OAQ(4)0058(AC) W