23/10/2012 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 9 Hydref 2012 i’w hateb ar 23 Hydref 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd i bobl Cymru. OAQ(4)0724(FM)

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei drafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch argymhellion Holtham. OAQ(4)0732(FM) W

3. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r rhyngwyneb rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. OAQ(4)0729(FM)

4. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu twf economaidd yn Islwyn. OAQ(4)0727(FM)

5. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid llywodraeth leol yng Nghymru. OAQ(4)0721(FM)

6. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ariannu ac i hwyluso cyflogi 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu newydd yng Nghymru. OAQ(4)0731(FM)

7. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefel y ddyled dwr yng Nghymru. OAQ(4)0728(FM)

8. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol trafnidiaeth gyhoeddus integredig. OAQ(4)0725(FM) W

9. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailstrwythuro gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0722(FM) W

10. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb wrth lunio’r gyllideb ddrafft. OAQ(4)0723(FM)

11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd yn Nwyrain De Cymru.  OAQ(4)0733(FM)

12. Elin Jones (Ceredigion): Sut y mae’r Llywodraeth yn gweithio tuag at wella argaeledd band eang cyflym yng Nghymru. OAQ(4)0726(FM) W TYNNWYD YN ÔL

13. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl ifanc nad ydynt mewn gwaith nac addysg. OAQ(4)0734(FM)

14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at ddatblygu’r campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Abertawe. OAQ(4)0720(FM) TYNNWYD YN ÔL

15. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd): Pa drafodaethau y mae Prif Weinidog Cymru wedi’u cael â Phrif Weinidog y DU ynglyn â pholisi ynni. OAQ(4)0735(FM) W