Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Ionawr 2012 i’w hateb ar 24 Ionawr 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa bryd y cyfarfu’r Prif Weinidog ddiwethaf â Phrif Weinidog yr Alban. OAQ(4)0314(FM) W
2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. OAQ(4)0316(FM)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglyn â pharthau clustogi ar gyfer datblygiadau glo brig. OAQ(4)0324(FM) W
4. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Beth mae’r Prif Weinidog yn ei wneud i gefnogi busnesau bach yng Nghanol De Cymru. OAQ(4)0315(FM)
5. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o effaith bosibl Gemau Olympaidd 2012 ar Gymru. OAQ(4)0326(FM)
6. Leanne Wood (Canol De Cymru): A yw’r Prif Weinidog wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i Senedd y DU ynghylch effaith newidiadau i'r system lles ar bobl Cymru. OAQ(4)0318(FM)
7. David Rees (Aberafan): Pa gamau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi plant. OAQ(4)0322(FM)
8. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglyn â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economi Cymru. OAQ(4)0321(FM) W
9. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran gwella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. OAQ(4)0310(FM)
10. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith dwyn metel ar gymunedau yng Nghymru. OAQ(4)0312(FM)
11. Bethan Jenkins (Canol De Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried safoni gwyliau’r ysgol ledled Cymru er mwyn iddynt ddechrau a gorffen ar yr un dyddiadau. OAQ(4)0317(FM)
12. Elin Jones (Ceredigion): Beth yw cynlluniau buddsoddi Llywodraeth Cymru ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(4)0323(FM) W
13. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith ar Gymru yn sgil cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer rheilffyrdd cyflym newydd. OAQ(4)0319(FM)
14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adnoddau sydd ar gael i’r GIG. OAQ(4)0320(FM)
15. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hybu twf swyddi yng Nghymru. OAQ(4)0325(FM)