24/02/2015 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 19/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/03/2015

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Chwefror 2015 i'w hateb ar 24 Chwefror 2015

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli rhagor o bwerau pellach i Gymru? OAQ(4)2130(FM)W

2. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y mae galwadau 999 diangen yn eu cael ar wasanaethau ambiwlans brys yng ngogledd Cymru? OAQ(4)2136(FM)

3. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ(4)2124(FM)

4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi galwadau i dreialu sefyll ddiogel yn stadia pêl-droed Cymru? OAQ(4)2128(FM)

5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am warchod gwybodaeth bersonol cleifion y GIG? OAQ(4)2135(FM)

6. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y rhwydwaith cludiant cyhoeddus yng Nghymru? OAQ(4)2131(FM)

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa awydd sydd gan Lywodraeth Cymru i symud at gynllun taliadau sy'n seiliedig ar ardaloedd mewn perthynas â cholofn un o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin? OAQ(4)2132(FM)

9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch astudiaeth ddiweddaraf Prifysgol Efrog ynghylch cymeradwyo cyffuriau drud? OAQ(4)2133(FM)

9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i wella gofal llygaid i gleifion yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2129(FM)

10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer cynyddu lefelau perchentyaeth yng Nghymru? OAQ(4)2121(FM)

11. Ann Jones (Dyffryn Clwyd) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynllun pensiwn y diffoddwyr tân? OAQ(4)2127(FM)R

12. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y bydd cau cyffordd 41 yr M4 dros dro yn ei chael ar Bort Talbot? OAQ(4)2118(FM)

13. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pryd y cyfarfu’r Prif Weinidog â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig ddiwethaf?  OAQ(4)2122(FM)W

14. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd yng Nghymru? OAQ(4)2126(FM)W

15. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygiad Bro Abertawe? OAQ(4)2120(FM)