Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Mawrth 2010 i’w hateb ar 24 Mawrth 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
1. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyffredinol i’r gyllideb Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(3)1031(BB)
2. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effeithiolrwydd gwariant ar draws cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1023(BB)
3. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae gwariant yn cael ei fonitro yn ôl rhyw yng nghyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0998(BB)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyfrifiad y DU. OAQ(3)1020(BB)
5. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa arweiniad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i gyhoeddi yn ystod y ddwy flynedd ariannol diwethaf i helpu i sicrhau gwerth am arian ar draws cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1013(BB)
6. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gyllid ar gyfer y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol. OAQ(3)0997(BB)
7. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith deddfwriaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyllideb gyffredinol y Cynulliad. OAQ(3)1041(BB)
8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith bosibl toriadau yng ngwariant y DU ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1014(BB)
9. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau cyllidebol ar hyn o bryd. OAQ(3)1032(BB)
10. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r trafodaethau y mae wedi'u cael gyda Thrysorlys y DU ynghylch cyllideb 2010 y Canghellor. OAQ(3)1029(BB)
11. Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i brosiectau Cymunedau yn Gyntaf wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)1035(BB)
12. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Comisiwn Holtham. OAQ(3)1028(BB) TYNNWYD YN ÔL
13. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch darparu cyllid ychwanegol i'r portffolio Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes ar gyfer y sector addysg bellach. OAQ(3)1024(BB)
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion sut y bydd gwaith y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesedd yn cael ei fwydo'n ôl i'r Cynulliad. OAQ(3)1026(BB)
15. Brian Gibbons (Aberafan): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith dyfarniadau tâl rhanbarthol ar gyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1001(BB)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon. OAQ(3)1120(HER)
2. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. OAQ(3)1101(HER)
3. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi’u cael ar ddarlledu yng Nghymru. OAQ(3)1089(HER) W
4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau yn y portffolio Treftadaeth ar gyfer y deuddeg mis nesaf. OAQ(3)1093(HER)
5. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth treftadaeth yng Nghymru. OAQ(3)1109(HER)
6. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i annog plant a phobl ifanc i wneud mwy o weithgarwch corfforol. OAQ(3)1119(HER)
7. Brian Gibbons (Aberafan): Beth sy'n cael ei wneud i hyrwyddo etifeddiaeth ddiwylliannol y mudiad undebau llafur yng Nghymru. OAQ(3)1078(HER)
8. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i dwristiaeth yn Abertawe. OAQ(3)1082(HER)
9. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad. OAQ(3)1111(HER)
10. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y caiff treftadaeth Cymru ei hyrwyddo yn ystod 2010. OAQ(3)1107(HER)
11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei bolisïau ar gyfer diogelu ein treftadaeth yng Nghymru. OAQ(3)1117(HER)
12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol i athletwyr yng Nghymru. OAQ(3)1097(HER)
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch dyfodol darlledu yng Nghymru. OAQ(3)1081(HER)
14. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei bolisïau ar gyfer hyrwyddo'r Gymraeg. OAQ(3)1116(HER)
15. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cyflwyno mynediad am ddim i bensiynwyr ac i blant sy'n byw yng Nghymru yn holl safleoedd Cadw. OAQ(3)1126(HER)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am y protocol sy'n llywodraethu mynediad y Comisiwn i swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad. OAQ(3)0041(AC)
2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am swyddogaeth Comisiwn y Cynulliad yng nghyswllt cynnal materion y Cynulliad o ddydd i ddydd. OAQ(3)0039(AC)
3. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am yr amcangyfrif o gyfanswm gwariant Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. OAQ(3)0040(AC)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am gyllideb flynyddol Comisiwn y Cynulliad. OAQ(3)0042(AC)