24/06/2008 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 10 Mehefin 2008
i’w hateb ar 24 Mehefin 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy yn y gogledd. OAQ(3)1146(FM)

2. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer iechyd pobl Cymru. OAQ(3)1142(FM)

3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghanol De Cymru ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)1154(FM)

4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei flaenoriaethau economaidd ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)1136(FM)

5. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch cyflogaeth y rheini a gyflogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i Hasiantaethau Gweithredol. OAQ(3)1143(FM)

6. Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Cefn Mawr a’r ardal gyfagos yng ngoleuni cau safle Flexys. OAQ(3)1157(FM)

7. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i sicrhau cysylltiad band eang cadarn drwy Gymru wledig. OAQ(3)1137(FM) W

8. Lesley Griffiths (Wrecsam): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda’i gymheiriaid mewn gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch gwaith y Cydbwyllgor Gweinidogion.  OAQ(3)1151(FM)

9. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio Cyllid Ewropeaidd yng Nghymru. OAQ(3)1140(FM)

10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaethpwyd i wneud Ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn ffordd ddeuol yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)1156(FM)

11. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar y ffyrdd ar yr A55 yn y gogledd. OAQ(3)1139(FM)

12. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffyrdd y gellir clywed safbwyntiau pobl ifanc a’u cynnwys ym mholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1158(FM)

13. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd Uned Addysg Ariannol Cymru. OAQ(3)1135(FM)

14. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwr cysylltiadau diwydiannol yn Estyn. OAQ(3)1145(FM)

15. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i hybu gwirfoddoli yng Nghymru. OAQ(3)1152(FM)