Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Mehefin 2013 i’w hateb ar 25 Mehefin 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r diwydiant ynni niwclear yng Nghymru? OAQ(4)1148(FM)
2. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am farchnad allforio Cymru? OAQ(4)1140(FM)
3. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer datblygu economaidd yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)1151(FM)
4. Elin Jones (Ceredigion): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu economi gorllewin Cymru? OAQ(4)1142(FM)W
5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Prif Weinidog nodi pa faterion a drafodwyd pan gyfarfu ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru? OAQ(4)1154(FM)W
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dargedau amseroedd aros y GIG ar gyfer Powys? OAQ(4)1146(FM)
7. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rheswm y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol rhoi cymhorthdal o dros £6 miliwn y flwyddyn ar gyfer ffioedd wrth giât y llosgydd ar gyfer Prosiect Gwyrdd? OAQ(4)1145(FM)
8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y rhyddhad ardrethi busnes? OAQ(4)1147(FM)
9. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau nifer y bobl sy'n ysmygu yng Nghymru? OAQ(4)1149(FM)
10. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am iechyd anifeiliaid yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)1152(FM)R
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau sawl adeilad rhestredig Gradd 1 sydd ar gael yng Nghymru? OAQ(4)1141(FM)
12. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i’r rheini sy’n prynu ty am y tro cyntaf? OAQ(4)1139(FM)
13. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar Gymru? OAQ(4)1150(FM)
14. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu twf economaidd yng Nghymru? OAQ(4)1144(FM)
15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am lefel y gwariant ar hyn o bryd ar y GIG yng Nghymru? OAQ(4)1143(FM)