Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 11 Tachwedd 2008 i’w hateb ar 25 Tachwedd 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y diffyg cyllid cyhoeddus i brifysgolion yng Nghymru o’i gymharu â'r cyllid sydd ar gael yn Lloegr. OAQ(3)1472(FM) TYNNWYD YN ÔL
2. Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y plant mewn gofal. OAQ(3)1481(FM) TYNNWYD YN ÔL
3. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cyflwyno ynglŷn â chyfrif cerdyn swyddfa’r post. OAQ(3)1496(FM)
4. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru. OAQ(3)1495(FM)
5. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith polisïau allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar fywydau pobl sy’n byw yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)1488(FM)
6. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i fynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru. OAQ(3)1492(FM) TYNNWYD YN ÔL
7. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fesurau Llywodraeth Cynulliad Cymru i alluogi pobl i wneud gwaith cynnal a chadw syml yn eu cartrefi. OAQ(3)1470(FM)
8. Jenny Randerson (Cardiff Central): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r manylion diweddaraf am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf. OAQ(3)1484(FM)
9. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cynnal ynglŷn â chyfrif cerdyn swyddfa’r post. OAQ(3)1497(FM) TYNNWYD YN ÔL
10. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r manylion diweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ffordd osgoi’r A494 Queensferry. OAQ(3)1480(FM)
11. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael o ran y safleoedd posibl ar gyfer carchar yn y Gogledd. OAQ(3)1479(FM)
12. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen Genesis Cymru Wales 2 Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1477(FM) TYNNWYD YN ÔL
13. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wneud o’r effaith y caiff Gemau Olympaidd Llundain ar arian y loteri i Gymru. OAQ(3)1467(FM) TYNNWYD YN ÔL
14. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith yr argyfwng ariannol presennol ar Gymru. OAQ(3)1475(FM)
15. Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog sicrhau bod pob adeilad cyhoeddus a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn defnyddio ceblau mwynol ar gyfer larymau tân, goleuadau diogelwch ac offer argyfwng arall. OAQ(3)1476(FM) TYNNWYD YN ÔL