Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Medi 2012
i’w hateb ar 26 Medi 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu gwasanaethau meddygol acíwt i bobl Castell-nedd Port Talbot. OAQ(4)0175(HSS)
2. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn gwasanaethau meddygol ac iechyd yn Abertawe. OAQ(4)0173(HSS)
3. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal newyddenedigol yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0168(HSS)
4. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd yng Nghymru. OAQ(4)0162(HSS)
5. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ba mor berthnasol i Gymru yw Adroddiad Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, ‘Hospitals on the edge? The time for action’. OAQ(4)0172(HSS)
6. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymgyrch Amser i Newid Cymru MIND Cymru. OAQ(4)0158(HSS)
7. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella iechyd a lles pobl sy’n byw yng Nghymru wledig. OAQ(4)0159(HSS)
8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sganiau i Fesur Amsugnad Pelydr-X Ynni Deuol (DEXA/DXA) sydd ar gael i gleifion sy'n dioddef o osteoporosis. OAQ(4)0166(HSS)
9. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau newyddenedigol yng Ngogledd Cymru. OAQ(4)0163(HSS) TYNNWYD YN ÔL
10. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa brotocol sydd ar waith i rannu data a chofnodion cleifion ar draws Byrddau Iechyd. OAQ(4)0160(HSS)
11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. OAQ(4)0171(HSS)
12. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0164(HSS)
13. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau ambiwlans yng Nghwm Cynon. OAQ(4)0174(HSS)
14. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniad ailstrwythuro gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot. OAQ(4)0167(HSS)
15. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drin menywod yng Nghymru sydd wedi cael gwasanaethau’r GIG i dynnu a chyfnewid mewnblaniadau bronnau silicon Poly Implant Prothese (PIP). OAQ(4)0157(HSS)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn gwneud unrhyw archwiliadau i Filiau’r Cynulliad fel mater o drefn cyn iddynt fynd ymlaen i gael Cydsyniad Brenhinol. OAQ(4)0037(CGE) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd yr un cwestiwn.