26/11/2013 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 21 Tachwedd 2013 i’w hateb ar 26 Tachwedd 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo sector treftadaeth Cymru? OAQ(4)1365(FM)

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y system cyfiawnder troseddol? OAQ(4)1368(FM)

3. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn ei wneud i hybu pynciau STEM yng Nghymru? OAQ(4)1359(FM)

4. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran rhoi Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar waith? OAQ(4)1366(FM)

5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddigartrefedd? OAQ(4)1351(FM)

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau a fydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y chwe mis nesaf i fynd i’r afael â throseddau casineb yng Nghymru?  OAQ(4)1355(FM)

7. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd systemau trafnidiaeth integredig mewn modelau dinas-ranbarthau? OAQ(4)1354(FM)

8. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatganoli trethi a phwerau benthyg i Gymru? OAQ(4)1363(FM)

9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n mynd rhagddo i ddileu HIV/AIDS yng Nghymru? OAQ(4)1353(FM)

10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu ei pholisïau a thargedau ynni adnewyddadwy i ystyried technolegau newydd? OAQ(4)1358(FM)

11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i adroddiad Comisiwn Silk? OAQ(4)1360(FM)W

12. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn Sir Benfro? OAQ(4)1352(FM)

13. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i Undebau Credyd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru? OAQ(4)1369(FM)

14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa gynnydd sydd wedi'i wneud gyda sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru? OAQ(4)1361(FM)

15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn pobl hyn rhag masnachwyr twyllodrus? OAQ(4)1356(FM)